Neidio i'r prif gynnwy

Rhannu eich data personol ag eraill

Weithiau rydym yn rhannu eich data personol â sefydliadau eraill. Rydym dim ond yn gwneud hyn pan fydd sail gyfreithiol glir ar gyfer gwneud hynny. Weithiau rydym yn rhannu eich data personol oherwydd ei bod er eich lles pennaf i ni wneud hynny, ac ar adegau eraill byddwn yn rhannu eich data personol oherwydd bod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i wneud hynny. Nid ydym yn rhannu eich data personol at ddibenion marchnata na masnachol.
 
Pan fyddwn yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol rhannu data personol, byddwn yn ymrwymo i ‘Gytundeb Rhannu Data’ (DSA) â'r bobl rydym yn mynd i'w rhannu â hwy. Mae DSA yn cael eu llunio yn unol â Chytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI). Ceir rhagor o fanylion am DSA ar wefan WASPI,
http://www.waspi.org/homelink

O bryd i'w gilydd, byddwn hefyd yn rhannu eich data personol â chontractwyr trydydd parti, rydym yn eu defnyddio i ymgymryd â rhai gweithgareddau prosesu ar ein rhan. Rydym yn gwneud hyn oherwydd ei bod yn aml yn fwy effeithlon a chost effeithiol defnyddio contractwr ac rydym wedi dyfarnu bod hynny yn sicrhau'r gwerth gorau. Pan fyddwn yn defnyddio contractwr bydd yn Brosesydd Data, ac yna bydd wed ei  rwymo gan y gyfraith yn yr un ffordd â ni ac felly bydd yn destun rheolau llym ar brosesu. Gall brosesu eich data personol dim ond yn y ffordd benodol a ddywedwn wrtho yn benodol ac ni ddylai rannu eich data personol ag unrhyw un arall heb ein caniatâd penodol. Cyn defnyddio contractwr rydym yn sicrhau bod ganddo fesurau priodol yn eu lle i ddiogelu eich data personol.