Neidio i'r prif gynnwy

Diogelwch eich data personol

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod eich data personol yn werthfawr iawn, ac felly rydym yn cymryd eu diogelwch o ddifrif.
 
Rydym yn defnyddio mesurau technegol cadarn i ddiogelu eich data personol ac mae mynediad iddynt wedi'i gyfyngu i bobl y mae ganddynt angen i'w prosesu yn unol â'u gwaith.
 
Mae holl staff Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhwym gan gontractau sy'n cynnwys cyfrifoldebau clir mewn perthynas â chyfrinachedd. Mae gan ein holl staff anfeddygol yr un ddyletswydd cyfrinachedd  â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd fel meddygon a nyrsys.
 
Rhaid i'n holl staff fynd i sesiynau hyfforddiant ar yr hyn a elwir gennym yn Llywodraethu Gwybodaeth. Ymhlith pethau eraill, mae'r hyfforddiant hwn yn gwneud iddynt ddeall pwysigrwydd cyfrinachedd a diogelwch eich data personol ac yn gwneud yn glir eu bod yn bersonol gyfrifol am ddiogelwch unrhyw wybodaeth y maent yn ei phrosesu. Rhaid iddynt fynd i'r hyfforddiant hwn o leiaf unwaith bob dwy flynedd a rhaid iddynt basio prawf i ddangos eu bod wedi ei ddeall. Mae'r disgwyliadau sydd gennym o ran ein staff wedi'u nodi yn y Polisi Llywodraethu Gwybodaeth. Mae methu cydymffurfio â’r polisi hwn yn drosedd.
 
Rydym yn archwilio mynediad i ddata personol yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu prosesu'n briodol.