Neidio i'r prif gynnwy

Archebu pecyn prawf sgrinio

Gofynnwch am becyn prawf sgrinio'r coluddyn heddiw
Os ydych chi'n 51 i 74 oed byddwch yn derbyn pecyn prawf yn awtomatig gennym bob dwy flynedd o ddyddiad eich canlyniad diwethaf.

Os ydych chi rhwng 51 a 54 oed, nid oes angen i chi gysylltu â ni i ofyn am becyn prawf. Fe'ch gwahoddir yn awtomatig rhwng Hydref 2023 a Medi 2024.

Yn anffodus nid yw’n bosibl i ni gynnwys pobl o dan 51 neu dros 74 oed yn y rhaglen sgrinio ar hyn o bryd. Os ydych yn bryderus neu os oes unrhyw symptomau gennych, ewch at eich meddyg teulu yn y ffordd arferol.

Gwnewch yn siŵr bod y manylion yr ydych yn eu darparu yr un fath ag yr ydych wedi arfer cofrestru gyda'ch meddyg teulu. Os ydych chi wedi symud yn ddiweddar, mae'n bwysig bod eich cyfeiriad newydd gan eich meddyg teulu