Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth i chi a'ch babi

Mae pob rhiant yn ymateb yn wahanol pan ddywedir wrtho bod gan ei faban golled ar ei glyw. Waeth beth fo’ch teimladau, mae digon o gymorth ar gael i chi. Bydd eich Tîm Cymorth Blynyddoedd Cynnar yn gallu eich helpu chi, eich baban a’ch teulu. Mae’r tîm hwn yn cynnwys eich awdiolegydd, athro arbenigol a meddyg arbenigol. Gall therapydd lleferydd ac iaith a gweithiwr cymdeithasol fod yn rhan o’r tîm hefyd.

Bydd y tîm yn cyfarfod â chi yn rheolaidd, ac yn gweithio gyda chi i gynnig cymorth mewn nifer o ffyrdd.

Cymhorthion clyw

Gall eich awdiolegydd ddweud wrthych y bydd gwisgo cymhorthion clyw yn helpu eich plentyn i glywed yn well. Os byddwch yn dewis cael cymhorthion clyw i’ch baban, caiff mowld arbennig ei wneud o glust eich baban. Bydd eich awdiolegydd yn rhoi cyngor i chi ar y ffordd orau o ddefnyddio cymhorthion clyw eich baban. Ni fyddant yn boenus nac yn anghyfforddus i’ch baban eu gwisgo. Bydd yr Adran Awdioleg yn cynnig profion rheolaidd o glyw eich baban a chymhorthion clyw eich baban.

Cyfathrebu

Mae plant a cholled ar eu clyw a’u teuluoedd yn cyfathrebu mewn nifer o ffyrdd. Bydd rhai pobl yn dysgu defnyddio lleferydd, bydd rhai yn dysgu defnyddio iaith arwyddion a bydd rhai yn defnyddio cymysgedd o’r ddau. Bydd yr athro arbenigol ac aelodau eraill o’r Tîm Cymorth Blynyddoedd Cynnar yn eich helpu i ddewis y ffordd orau i chi a’ch baban gyfathrebu. Pan fyddwch wedi penderfynu ar hyn, mae’n bwysig iawn cyfathrebu â’ch baban gymaint â phosibl.

Addysg

Mae’r rhan fwyaf o blant sydd â cholled ar y clyw yn mynd i ysgolion prif ffrwd lle y gall fod angen cymorth arbenigol ar rai plant. Bydd rhai yn mynd i ysgolion arbennig ar gyfer plant byddar. Bydd yr athro arbenigol yn eich helpu i ddewis yr ysgol sy’n diwallu anghenion eich plentyn.

Cymorth ariannol

Gall budd-daliadau’r wladwriaeth fod ar gael i’ch helpu i ofalu am eich baban. Bydd y gweithiwr cymdeithasol ar eich Tîm Cymorth Blynyddoedd Cynnar, y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar (NDCS), yr Asiantaeth Budd-daliadau neu’r Swyddfa Cyngor ar Bopeth yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i chi.

Cymorth arall

Gall yr NDCS roi cymorth a gwybodaeth i chi, ac mae ganddi linell gymorth i rieni y mae gan eu plant golled ar eu clyw. Gall eu cynghorwyr profiadol helpu i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. Gallwch gysylltu â’r NDCS   (Dolen Allanol), ar linell gymorth Rhadffon: 0808 800 8880 (v/t)