Neidio i'r prif gynnwy

Ydych chi'n Weithiwr neu Hyrwyddwr Iechyd Cymunedol?

Os felly, archebwch le ar ein sesiwn ymwybyddiaeth sgrinio ar-lein rhad ac am ddim. 

Byddwch yn dysgu am raglenni sgrinio’r GIG a gynigir yng Nghymru, a all eich helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned. 

Mae Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu rhaglenni sgrinio cenedlaethol yng Nghymru.  I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol raglenni sgrinio ewch i: icc.gig.cymru/sgrinio 

 

 

Archebwch ei lle

Byddwn yn cyflwyno'r sesiwn ymwybyddiaeth sgrinio 3 awr ar Microsoft Weminar neu Teams.  Cyflwynir y sesiynau yn Gymraeg a Saesneg. 

I archebu eich lle, dewiswch eich hoff ddyddiad ac iaith isod a chliciwch ar y ddolen.  Bydd hyn yn mynd â chi at ffurflen gofrestru. Dilynwch y cyfarwyddiadau i gwblhau'r ffurflen gofrestru. 

Ar ôl cyflwyno'ch ffurflen gofrestru wedi'i chwblhau byddwch yn cael e-bost gyda manylion ar sut i ymuno â'r sesiwn.   

Byddwch yn cael e-bost atgoffa ychydig ddyddiau cyn y sesiwn. Cofiwch nodi'r e-bost hwn ar gyfer ymuno ar y diwrnod. 

Dydd Mawrth 14/05/2024 10:00-13:00 Ffurflen archebu
Cyflwynir yn Saesneg
 
Dydd Mercher 05/06/2024 10:00-13:00 Ffurflen archebu
Cyfwynir yn Gymraeg
 
Dydd Mawrth 09/07/2024 10:00-13:00 Ffurflen archebu
Cyflwynir yn Saesneg
 

Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol, mae gwybodaeth am sut i ganslo eich lle yn yr e-bost gyda’r cyfarwyddiadau ymuno.  

Noder: Mae angen isafswm i allu cynnal y cwrs. Os bydd angen canslo'r cwrs, byddwn yn rhoi gwybod i chi er mwyn i chi allu cadw lle ar ddyddiadau yn y dyfodol.