Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych yn defnyddio cadair olwyn neu os ydych yn cael trafferth defnyddio stepiau?

Os byddwch yn cael eich gwahodd i’r uned deithiol byddwn yn gofyn i chi ffonio’r swyddfa sgrinio i drefnu apwyntiad gwahanol. 
 
Y rheswm am hyn yw bod stepiau’n sownd fel arfer i’r uned deithiol. Dim ond i ferched sy’n gallu dringo chwech o stepiau heb help y mae’r apwyntiadau rheolaidd yn yr uned deithiol yn addas.
 
Mae fel arfer yn bosibl defnyddio’r lifft ar yr uned deithiol pan fydd clinigau mynediad arbennig yn cael eu cynnal. Os ydych yn cael trafferth defnyddio stepiau neu os ydych yn defnyddio cadair olwyn, byddwch yn gallu cael eich sgrinio yn yr uned deithiol, ond rhaid i chi ffonio i ofyn am apwyntiad yn un o’r sesiynau mynediad arbennig.
 
Bydd yr apwyntiad mynediad arbennig yn yr uned deithiol fel arfer. Ond byddwn yn rhoi apwyntiad i chi ar gyfer yr adeg pan fydd y lifft ar waith, a bydd yr apwyntiad yn hirach er mwyn rhoi mwy o amser i chi newid eich dillad.