Neidio i'r prif gynnwy

Merched sydd ag Anableddau Dysgu

Rydym yn annog merched sydd ag anableddau dysgu i ddod i uned deithiol i gael eu sgrinio am fod mynediad iddi’n fwy rhwydd ac mae’r uned wedi’i lleoli’n agosach at yr ardal lle mae’r ferch yn byw.  
 
Nid ydym yn gallu cynnig cyfle i ferched ymweld cyn yr apwyntiad i gael y prawf sgrinio am fod llawer o ferched yn cael profion sgrinio yn ystod pob clinig. Ond os yw merch sydd ag anabledd dysgu’n awyddus i gael cyfle i ddod yn gyfarwydd â’r offer, y staff a’r lleoliad cyn dod i gael y prawf, byddai’n bosibl trefnu apwyntiad arbennig ar ei chyfer. Os ydych chi neu’ch gofalwr yn awyddus i drafod y gwahoddiad i gael prawf sgrinio, ffoniwch y ganolfan sgrinio’r fron yn eich ardal. Bydd staff y ganolfan yn barod iawn i’ch helpu.