Neidio i'r prif gynnwy

Merched ag Anableddau Corfforol

Mae gan Bron Brawf Cymru nifer o unedau sy’n teithio ar hyd a lled Cymru i wneud profion sgrinio. Mae lifft ym mhob un o’r unedau sy’n ddigon mawr i gymryd cadair olwyn. Mae hynny’n golygu y gall merch sy’n defnyddio cadair olwyn fynd yn ddiogel i mewn i’r uned i gael ei sgrinio yn ei chymuned ei hunan.
 
Yn ogystal â’r lifft, mae nodweddion eraill i’r unedau sy’n hwyluso pethau i ddefnyddwyr anabl. Yn eu plith mae:
•    Coridorau lletach i lawr canol yr uned
•    Mynedfa fwy i dderbynfa lle mae’r ddesg yn is
•    Drws lletach i mewn i’r ystafell pelydr-X sydd hefyd â mwy o le ynddi i gymryd cadair olwyn
•    Ciwbicl newid sydd â digon o le i gadair olwyn
•    Botwm ar y tu allan y gall defnyddwyr anabl ei bwyso i alw am help ar ôl cyrraedd
•    Mae digon o le yn yr uned i gadair olwyn hyd at 31" o led.
 
Wrth anfon y gwahoddiadau i ddod i gael prawf sgrinio, mae Bron Brawf Cymru’n gofyn i ferched ag anableddau i gysylltu â’r ganolfan sgrinio yn eu hardal i drefnu eu hapwyntiadau i fynd i uned deithiol.