Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddiad Rhaglen Sgrinio'r Fron

Diweddariad Gorffennaf 2020

Oherwydd pandemig y Coronafeirws, cynghorodd Llywodraeth Cymru fod rhai rhaglenni sgrinio yn cymryd saib o ran anfon gwahoddiadau newydd neu lythyrau atgoffa, yn cynnwys sgrinio’r fron.
 
Rydym bellach yn cynllunio ailddechrau’r rhaglen. Rydym yn dechrau trwy anfon ein gwahoddiadau i fenywod â risg uwch yn ystod Gorffennaf. Dyma’r menywod sy’n cael eu gweld yn amlach oherwydd hanes teuluol penodol neu ganfyddiadau blaenorol.
 
Bydd angen i ni wneud rhai newidiadau i’n hunedau symudol er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni canllawiau rheoli haint Coronafeirws. Bydd angen bod y rhain ar waith cyn y gallwn ddechrau anfon mwy o’n gwahoddiadau arferol. Ein gobaith yw gallu gwahodd menywod sydd i fod cael gwahoddiadau arferol tua diwedd yr haf. Fodd bynnag, bydd yn cymryd misoedd lawer i ddal i fyny a gallai llawer o fenywod dderbyn eu gwahoddiadau yn hwyrach na’r disgwyl.
 
Er mwyn gallu cadw pellter cymdeithasol a chaniatáu amser ar gyfer glanhau rhwng menywod, ni fyddwn yn gallu gweld cymaint o fenywod ym mhob clinig ag oeddem o’r blaen. Am fod gennym lawer yn llai o apwyntiadau, mae’n arbennig o bwysig ein bod yn cael gwybod cyn gynted â phosibl os nad ydych yn gallu mynychu er mwyn i ni allu cynnig yr apwyntiad hwnnw i rywun arall.
 
Rydym yn gweithio’n galed i ailsefydlu sgrinio mor ddiogel â phosibl ar gyfer menywod yr ydym yn eu gwahodd ac i’n staff.  Rydym yn ddiolchgar am eich amynedd.
 
Os byddwch yn dod i arfer â golwg a theimlad eich bronnau fel arfer, byddwch yn fwy tebygol o sylwi ar unrhyw newidiadau a allai fod yn arwydd o ganser y fron.
Mae hyn yn bwysig hyd yn oed os nad ydych wedi cael sgrinio’r fron. Edrychwch am y canlynol:
•    Lwmp neu dewychiad yn y fron.
•    Newid yn y deth. Efallai fod y deth wedi ei thynnu yn ôl i mewn i’r fron, neu wedi newid siâp. Gall fod brech sy’n gwneud i’r deth edrych yn goch ac yn gennog, neu bod gwaed neu hylif arall yn dod o’r deth.
•    Newid yn y ffordd y mae’r fron yn teimlo neu’n edrych. Gall deimlo’n drwm, yn gynnes neu’n anwastad, neu gall y croen edrych yn fochdyllog. Gallai maint a siâp y fron newid.
•    Poen neu anesmwythdra yn y fron neu’r gesail.
•    Chwydd neu lwmp yn y gesail.
 
Os oes unrhyw newidiadau yn eich bron, dylech wneud apwyntiad i weld eich meddyg teulu ar unwaith.