Neidio i'r prif gynnwy

Peilot Blwyddyn 4

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf i gynnal peilot o fesuriadau taldra a phwysau ar gyfer plant ym mlwyddyn pedwar.

Cynhaliwyd y peilot o Chwefror 2013 i Orffennaf 2013 a’i nod oedd profi gweithredu rhaglen mesur taldra a phwysau plant wedi ei safoni yn gynnar.

Lawrlwythiad

  • Report of Year 4 Child Measurement Programme Pilot 2012/13 (pdf icon 2013.pdf, 0.5MB) (Saesneg yn unig)
  • Data Tables (excel icon.xls, 0.5MB) (Saesneg yn unig)

Pam y cafodd blwyddyn 4 ei dewis?

Ni o batrymu tyfu yn ystod y blynyddoedd cynradd yn yr ysgol. Byddai hefyd yn galluogi cymharu patrymau twf yng Nghymru gyda rhannau eraill o Ewrop sy’n cymryd rhan ym Menter Gwyliadwriaeth Gordewdra mewn Plentyndod (COSI) Sefydliad Iechyd y Byd link to an external website - opens in new window.

Sut cafodd y wybodaeth am daldra a phwysau o’r peilot ei defnyddio?

Fe wnaeth yr ysgolion ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon a gymerodd ran yn y peilot hefyd gymryd rhan mewn astudiaeth ddichonoldeb flaenorol yn 2008/09.

Roedd hyn yn golygu bod y wybodaeth yn arbennig o werthfawr i weld sut y mae patrymau twf wedi newid ers i’r plant gael eu mesur gyntaf yn y dosbarth derbyn.

A yw hyn wedi cael ei wneud o’r blaen yng Nghymru?

Yn 2008/09 archwiliodd astudiaeth ddichonoldeb ddichonoldeb rhaglen mesur plant genedlaethol.  Roedd hyn yn cynnwys cymryd mesuriadau safonol yn y flwyddyn derbyn ac ym mlwyddyn pedwar mewn ardaloedd penodol o Gymru, yn cynnwys Merthyr Tudful a Chwm Cynon.

Yr adroddiad hwn oedd sylfaen yr argymhellion i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i phenderfyniad hi i sefydlu Rhaglen Mesur Plant Cymru. Mae’r rhaglen bellach wedi ei sefydlu ar gyfer y flwyddyn derbyn; fodd bynnag, nid oes cyllid ar gyfer rhaglen blwyddyn pedwar ar draws Cymru gyfan wedi cael ei gytuno eto. 

Beth oedd prif ganfyddiadau cynllun peilot Blwyddyn 4?

Canfu’r astudiaeth beilot fod 20.4% o blant blwyddyn 4 yng Nghwm Taf yn 2012/13 wedi eu categoreiddio i fod yn ordew. Yn y cyfamser, roedd 13.9% o blant yn y flwyddyn derbyn yng Ngwm Taf yn 2012/13 wedi cael eu categoreiddio i fod yn ordew.  Roedd 954 o’r plant yn yr astudiaeth beilot hefyd wedi cael eu mesur yn yr astudiaeth ddichonoldeb a gynhaliwyd yn 2009, a thrwy gysylltu’r cofnodion, canfuwyd er bod 120 o’r garfan wreiddiol hon wedi cael eu canfod i fod yn ordew yn 2009, erbyn 2013, roedd hyn wedi cynyddu i 212 o blant.

Mae’r graffeg gwybodaeth isod yn dangos twf plant a fesurwyd yn yr astudiaeth ddichonoldeb wreiddiol yn 2009 a’r astudiaeth yn 2013;

Beth yw’r argymhellion o’r peilot hwn?

Mae mynychder gordewdra mewn plentyndod yn cynyddu’n sylweddol rhwng y flwyddyn derbyn a blwyddyn 4. Felly argymhellodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y Rhaglen Mesur Plant bresennol yn cael ei hymestyn i gynnwys plant yng ngrŵp oed blwyddyn 4, er mwyn monitro canlyniad unrhyw weithgaredd wedi ei anelu at leihau lefelau gordewdra rhwng y flwyddyn derbyn a blwyddyn 4.

Fodd bynnag, cydnabu Iechyd Cyhoeddus Cymru y bydd goblygiadau sylweddol i hyn o ran cost i’r holl Fyrddau Iechyd yng Nghymru. 

A fydd y Rhaglen Mesur Plant yn cael ei hymestyn i Flwyddyn pedwar ar draws Cymru?

Nododd y rheoliadau (needs to link to regulations currently link to standards) sy’n cefnogi’r rhaglen y dylid cymryd mesuriadau yn y flwyddyn derbyn a blwyddyn pedwar.