Neidio i'r prif gynnwy

Ansawdd Gwasanaethau Deintyddol

Rydym yn gweithio gyda’r Byrddau Iechyd, Llywodraeth Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, cleifion a’r cyhoedd, a phartneriaid eraill yn y system i fanteisio i’r eithaf ar werth gwasanaethau deintyddol yng Nghymru. Rydym yn hyrwyddo a/neu’n cymryd rhan mewn arloesi, ymchwil a gwerthuso i wella tegwch, diogelwch a chost-effeithiolrwydd gwasanaethau deintyddol yng Nghymru

Gan weithio gyda phartneriaid yn y system, ein nod yw datblygu system ddeintyddol sy’n dysgu a gwella’n barhaus fel ei bod yn cyflawni’r canlyniadau gorau posibl i boblogaeth Cymru.

Rhaglen Ddiwygio Gwasanaethau Deintyddol: Gwnaeth Llywodraeth Cymru nodi ei chyfeiriad strategol ar gyfer gwella a diwygio iechyd y geg gwasanaethau deintyddol yn Ymateb y Gwasanaethau Deintyddol ac Iechyd y Geg i Gymru Iachach. Roedd hyn yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau bod gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol yn canolbwyntio ar atal a chanlyniadau ac yn addas i’r diben ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Buom yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, darparwyr gwasanaethau deintyddol a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddechrau’r Rhaglen Ddiwygio Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol yn 2017 Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: Iechyd Deintyddol Cyhoeddus - Gofal Sylfaenol Un (gig.cymru)

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw’r corff annibynnol sy’n arolygu ac yn rheoleiddio pob gofal iechyd yng Nghymru.

Hunanasesiad Sicrhau Ansawdd (QAS) Practisau Deintyddol Cymru Gyfan:  Y tîm Iechyd Deintyddol Cyhoeddus sy’n trefnu’r pecyn cymorth QAS ar gyfer practisau deintyddol Cymru Gyfan ac sy’n cydlynu’r broses hunanasesu flynyddol ar ran Byrddau Iechyd a phractisau deintyddol yng Nghymru. Rydym hefyd yn cynnal cyfarfodydd Fforwm Ansawdd a Diogelwch y Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GDC) ddwywaith y flwyddyn.

Pecyn cymorth hunanasesu yw'r QAS sy’n cynorthwyo darparwyr Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol/Personol yng Nghymru i nodi meysydd i wella Ansawdd a Diogelwch eu practis. Bydd cwblhau’r pecyn cymorth QAS hefyd yn cynorthwyo practisau deintyddol i gydymffurfio â gofynion contractiol Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol/Personol y GIG. Bydd pob practis deintyddol sydd â chontract deintyddol gyda’r GIG yn cwblhau’r pecyn cymorth QAS yn flynyddol. Yn ogystal â phractisau eu hunain yn nodi meysydd i’w gwella drwy hunanasesu, bydd cynghorwyr practisau deintyddol a gyflogir gan fyrddau iechyd yn asesu’r pecyn cymorth QAS a gwblheir ym mhob bwrdd iechyd hefyd. Bydd y cynghorwyr yn darparu cyngor i dimau rheoli contract deintyddol Byrddau Iechyd os bydd unrhyw bryderon ynghylch Ansawdd a Diogelwch yn deillio o hunanasesiadau’r practis.

Mae’r tîm Iechyd Deintyddol Cyhoeddus yn llunio adroddiad QAS blynyddol sy’n seiliedig ar yr adroddiadau cryno a ddarperir gan y cynghorydd practisau deintyddol ym mhob un o’r saith bwrdd iechyd.

Adroddiad Cenedlaethol QAS 2022

Mae cyngor a chymorth gwella ansawdd ar gael i bractisau gan gynghorwyr practisau deintyddol Byrddau Iechyd. Mae cyfres o becynnau cymorth, archwiliadau ac adnoddau i wella ansawdd (gan gynnwys cyllid) ar gael i bractisau deintyddol gan Raglen Gwella Ansawdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Gall practisau deintyddol gysylltu â’r addysgwr Gwella Ansawdd sydd ynghlwm â’r bwrdd iechyd i gael cyngor a chymorth pellach.

Arolygu Practisau Deintyddol yng Nghymru

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw’r arolygiaeth a’r rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. AGIC sy’n arolygu practisau deintyddol. Mae’r adroddiadau arolygu practisau deintyddol ar gael ar y wefan.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y QAS, cysylltwch â dentalpublichealth@wales.nhs.uk

Diweddarwyd ddiwethaf:  Mehefin 2023