Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor i'r cyhoedd

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a’r cyngor arbenigol, nid oes angen i aelodau’r cyhoedd gymryd unrhyw gamau arbennig i leihau cyswllt â’r lefelau isel o donnau radio o rwydweithiau ac offer Wi-Fi (e.e. fel y defnyddir mewn lleoliadau cyhoeddus), mesuryddion clyfar neu orsafoedd sylfaen ffonau symudol. Fodd bynnag, argymhellir osgoi defnydd heb fod yn hanfodol o ffonau symudol ar gyfer galwadau llais ymhlith plant; y rheswm dros hyn yw am fod y cyswllt yn uwch wrth ddal ffonau symudol wrth y pen i wneud galwadau llais, er bod hyn oddi mewn i’r canllawiau o hyd.