Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o'r dystiolaeth o risgiau i iechyd

Mae ymchwil wedi cael ei gynnal gan yr Asiantaeth Ryngwladol ar gyfer Ymchwil i Ganser (IARC) i edrych ar effaith tonnau radio ar iechyd. Dywedwyd bod tonnau radio yn ‘garsinogenig o bosib’ (achos posib o ganser). Nid yw hyn yn golygu bod cyswllt uniongyrchol rhwng tonnau radio o ffonau symudol a chanser; yn hytrach, bod y dystiolaeth o astudiaethau a edrychodd ar a oes modd i donnau radio achosi canser mewn pobl yn cael ei hystyried yn gyfyngedig. Roedd y dystiolaeth o astudiaethau arbrofol yn cynnwys anifeiliaid a gafodd gyswllt yn cael ei hystyried yn gyfyngedig hefyd. Ymhlith yr esiamplau eraill o gemegau neu sylweddau sy’n cael eu hystyried yn garsinogenig o bosib mae bwyta llysiau wedi’u piclo (o fath Asiaidd) neu ddefnyddio powdwr corff ar ffurf talc.  

Weithiau mae pobl yn bryderus am gyswllt ac effeithiau, ond asesir cyswllt â thonnau radio a’r risgiau yn erbyn safonau iechyd cytunedig sydd wedi cael eu pennu er mwyn gwarchod iechyd unigolion a’r boblogaeth. Yn ôl Public Health England, cynghorwyr arbenigol y DU ar ymbelydredd, mae cyswllt y cyhoedd â thonnau radio o orsafoedd sylfaen telegyfathrebu symudol technoleg 2G, 3G a 4G yn ddiogel oddi mewn i’r canllawiau sydd wedi’u pennu gan y Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu rhag Ymbelydredd nad yw’n Ïoneiddio (ICNIRP). Mae’r canllawiau hyn yn cael eu derbyn a’u defnyddio yn rhyngwladol mewn sawl gwlad, gan gynnwys y DU. Gall yr ehangu diweddar ar dechnoleg 5G ledled y DU arwain o bosib at gynnydd mewn cyswllt cyffredinol â thonnau radio. Fodd bynnag, nid oes disgwyl i’r cyswllt fod yn fwy na’r canllawiau iechyd.

Yn yr un modd, nid oes disgwyl i dechnoleg Wi-Fi – fel y defnyddir mewn rhwydweithiau ardal lleol di-wifr lle mae dyfeisiau a chyfrifiaduron yn cyfathrebu drwy donnau radio yn lle ceblau’n cysylltu – gael effaith negyddol ar iechyd y boblogaeth yn gyffredinol. Mae’r signalau’n bŵer isel iawn mewn cyfrifiaduron a llwybrwyr rhwydweithiau Wi-Fi ac mae’r lefelau cyswllt yn is na’r rhai o ffonau symudol sy’n cael eu dal wrth y pen yn ystod galwadau. Mae ymchwil yn dangos y bydd cyswllt unigolyn â thonnau radio o Wi-Fi yn ddiogel oddi mewn i’r canllawiau ICNIRP a dderbynnir yn rhyngwladol. O’r herwydd, nid oes unrhyw reswm pam na ddylai Wi-Fi gael ei ddefnyddio mewn ysgolion ac mewn mannau cyhoeddus eraill.