Neidio i'r prif gynnwy

Cadwch eich hun yn gynnes

  • Mae bwyd yn ffynhonnell egni hanfodol, sy'n helpu i gadw'ch corff yn gynnes. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael prydau a diodydd poeth (te, coffi neu goco) drwy gydol y dydd.
  • Ni fydd yfed alcohol yn eich cadw'n gynnes.
  • Cadwch yn brysur gartref os gallwch chi.
  • Gwisgwch sawl haen denau o ddillad wedi'u gwneud o gotwm, gwlân neu fleece yn hytrach nag un haen drwchus.
  • Cadwch yn gynnes yn y gwely gyda blancedi a sawl haen denau o ddillad.
  • Mae llawer o wres y corff yn cael ei golli o'r pen. Os oes rhaid i chi fynd allan, gwisgwch het a chofiwch wisgo esgidiau â gwadnau sy’n cydio.