Neidio i'r prif gynnwy

Cyn unrhyw gyfnodau o dywydd oer, gwnewch yn siŵr eich bod yn:

Bydd y camau canlynol yn eich helpu i baratoi'ch hun a'ch teulu cyn i'r tywydd oer gychwyn:

  • Cael eich pigiad ffliw os ydych chi: dros 65 oed, yn feichiog, yn dioddef o gyflwr meddygol, yn byw mewn cartref preswyl neu gartref nyrsio, neu os ydych chi yn brif ofalwr am berson anabl neu berson hŷn. Gofynnwch i’ch darparwr iechyd neu ofal cymdeithasol ynghylch cadw’n iach yn y gaeaf a gwnewch yn siŵr bod gennych chi ddigon o feddyginaeth os yw rhagolygon y tywydd yn darogan tywydd gaeafol.
  • Gwirio eich cyfarpar gwresogi a choginio? Mae carbon monocsid yn lladd. Gwnewch yn siŵr bod pob ffliw a simdde wedi’u glanhau gan wirio nad oes dim yn blocio mannau awyru. Os nad oes cysylltiad nwy neu drydan gyda chi a’ch bod yn defnyddio olew, LPG neu gynhyrchion coed i wresogi’ch cartref, gwnewch yn siŵr bod gennych gyflenwad digonol ac na fydd y cyflenwad yn mynd yn brin yn ystod y gaeaf. Hefyd, dylech osod larwm carbon monocsid clywadwy sy’n cydymffurfio ag EN 50291, ond nid yw gosod larwm yn golygu nad oes angen parhau i gynnal a chadw’ch cyfarpar yn rheolaidd.
  • Cael cefnogaeth ariannol. Mae grantiau, budd-daliadau a ffynonellau cyngor ar gael i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni, gwella’r system wresogi neu helpu i dalu’ch biliau. Mae’n werth hawlio’r holl fudd-daliadau sy’n gymwys i chi a sicrhau eich bod yn eu derbyn cyn i’r tywydd oer gychwyn.