Mae problemau heintiad sy’n codi o lifogydd yn brin yn y wlad yma. Fel rheol bydd unrhyw chwilod niweidiol mewn llifddwr yn dod yn wanhaëdig ac felly’n cyflwyno risg llai, ond mae yna nifer o ragofalon y gallwn eu cymryd:
- Ceisiwch osgoi cyswllt uniongyrchol â llifddwr pryd bynnag y bydd hynny’n bosib. Os bydd yn rhaid i chi fynd i mewn i’r dŵr, gwisgwch fenig dal dŵr ac esgidiau rwber a chofiwch fod yn ofalus o beryglon potensial cudd
- Golchwch eich dwylo – dyma’r ffordd bwysicaf o gael gwared â chwilod niweidiol. Defnyddiwch ddŵr glân, cynnes a sebon, yna rinsiwch a sychwch eich dwylo wedi i chi fod yn y toiled, cyn bwyta neu baratoi bwyd, neu wedi i chi fod mewn cysylltiad â llifddwr, carthion neu eitemau sydd wedi bod yn y dŵr. Defnyddiwch ddŵr oer os nad oes yna ddŵr cynnes, neu glytiau sychu dwylo os na fydd yna ddŵr o gwbl
- Gofalwch bod unrhyw archollion agored neu friwiau’n lân a’u hatal rhag cael eu hamlygu i lifddwr. Gwisgwch blasteri gwrth-ddŵr.