Neidio i'r prif gynnwy

Cadw plant yn saff

  • Peidiwch â gadael i blant chwarae mewn ardaloedd llifddwr – fyddan nhw ddim yn gwybod pa mor ddwfn yw’r dŵr ac efallai fod yno beryglon cudd 
  • Golchwch ddwylo plant yn aml a chyn prydau bwyd bob amser 
  • Dylai rhieni sydd â babanod sy’n sâl gyda dolur rhydd a chwydu geisio cyngor meddygol 
  • Peidiwch â gadael i’ch plant chwarae ar ardaloedd palmantog neu goncrid sydd wedi’u heffeithio nes eu bod wedi eu glanhau.  Mae golau haul a phridd yn helpu i ddinistrio bacteria niweidiol felly mae’n saff, fel rheol,  i blant chwarae ar wair tuag wythnos wedi i’r llifddwr fynd. 
  • Golchwch degannau sydd wedi’u halogi â llifddwr â dŵr poeth a glanedydd.  Gellir rhoi tegannau meddal mewn golchiad peiriant poeth (60°C).