Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw peryglon llifogydd?

Yn aml, mae dŵr llifogydd wedi’i lygru gan garthion, cemegau a/neu garthion anifeiliaid os yw’n ddŵr ffo o gaeau. Mae carthion yn codi a gallant ddianc trwy ddraeniau, yn ogystal â chnofilod. Gall dŵr llifogydd llygredig achosi pob math o glefydau heintus, yn cynnwys dolur rhydd.
 
Mae risgiau eraill yn cynnwys:

  • Anafiadau
  • Boddi
  • dod i gysylltiad â chemegau
  • cael eich dal yn y llifogydd
  • bod heb drydan neu ddŵr glân
  • a’r teimladau o straen a gorbryder a achosir gan y sefyllfaoedd hyn. 

Mae hyn yn gallu effeithio ar amrywiaeth eang o bobl – a’r rhai mwyaf bregus yw plant bach, yr henoed a rhai â chyflyrau iechyd eisoes fel unigolion ar ddialysis arennau a rhai gyda system imiwnedd gwan. Pan fydd ardaloedd wedi’u taro gan lifogydd, gall fod yn anodd cyflenwi bwyd, dŵr a thrydan i’r ardaloedd hynny.