Neidio i'r prif gynnwy

Llifogydd

Mae llifogydd yn digwydd pan mae mwy o law yn disgyn na all y tir ei amsugno neu os nad yw cyrsiau dŵr, draeniau a charthffosydd yn gallu ymdopi â’r holl law. Mae lefelau dŵr yn codi ac yn gorlifo cloddiau afonydd. Gall llifogydd arfordirol ddigwydd yn ystod ymchwydd storm neu o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.
 
Yn aml, mae dŵr llifogydd wedi’i lygru gan garthion, cemegau a/neu garthion anifeiliaid os yw’n ddŵr ffo o gaeau. Mae carthion yn codi a gallant ddianc trwy ddraeniau, yn ogystal â chnofilod. Gall dŵr llifogydd llygredig achosi pob math o glefydau heintus, yn cynnwys dolur rhydd.
 
Mae risgiau eraill yn cynnwys anafiadau, boddi, dod i gysylltiad â chemegau, cael eich dal yn y llifogydd, bod heb drydan neu ddŵr glân, a’r teimladau o straen a gorbryder a achosir gan y sefyllfaoedd hyn. Mae hyn yn gallu effeithio ar amrywiaeth eang o bobl – a’r rhai mwyaf bregus yw plant bach, yr henoed a rhai â chyflyrau iechyd eisoes fel unigolion ar ddialysis arennau a rhai gyda system imiwnedd gwan. Pan fydd ardaloedd wedi’u taro gan lifogydd, gall fod yn anodd cyflenwi bwyd, dŵr a thrydan i’r ardaloedd hynny.

Am fwy o wybodaeth, ewch i: Llifogydd