Mae gwrthfiotigau'n cael eu defnyddio i drin heintiau a achosir gan facteria, ond bob tro rydym yn eu cymryd, rydym yn rhoi'r cyfle i'r bacteria ymladd yn ôl. Mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn digwydd pan fydd bacteria'n dod o hyd i ffordd o drechu'r cyffuriau sydd wedi'u dylunio i'w lladd.
Mae gwrthfiotigau'n mynd yn llai effeithiol oherwydd ein bod yn eu gorddefnyddio ac, mewn rhai achosion, yn eu camddefnyddio. Mae hon yn broblem rhaid i ni daclo nawr cyn i bethau waethygu.
Yn fyd-eang, mae dros 700,000 o bobl yn marw bob blwyddyn oherwydd heintiau sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau. Oni bai ein bod yn gweithredu nawr, ni fydd triniaethau rheolaidd fel cemotherapi, trawsblannu organau a gosod cymalau newydd yn bosibl mwyach gan na fydd y gwrthfiotigau sydd eu hangen i'w gwneud yn ddiogel yn effeithiol.
Mae gwrthfiotigau'n adnodd gwerthfawr ac mae angen i ni eu trin fel hynny. Rhaid i ni i gyd weithredu nawr i arafu lledaeniad ymwrthedd i wrthfiotigau.
Cofiwch, nid gwrthfiotigau yw'r ateb bob amser. Pan fyddant yn cael eu rhagnodi, maent yn cael eu rhagnodi'n benodol i chi a'ch haint.
Trwy ddilyn y camau hyn gallwn ni gyd chwarae rhan i arafu lledaeniad ymwrthedd i wrthfiotigau.
Helpwch ni i ledaenu’r neges am ymwrthedd gwrthfiotig trwy lawr lwytho a rhannu'r negeseuon a defnydd sydd ar gael ar ein Llyfrgell Asedau: