Neidio i'r prif gynnwy

Pa gyrsiau sydd ar gael?

Mae eich bwrdd iechyd lleol yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau hunan-reoli ar gyfer pobl sy’n byw gyda chyflwr/cyflyrau iechyd hirdymor. Dewiswch y lleoliad y byddech chi’n ei ffafrio i ddarganfod pa gyrsiau EPP sydd ar gael yn eich ardal chi. 


Byw gyda Chyflwr Cronig

(hefyd ar gael yn y gweithle)

Mae hwn yn gwrs 6 wythnos sy’n cynnwys un sesiwn 2.5 awr yr wythnos. Mae'n helpu oedolion sy'n byw gyda chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor i gynnal a gwella ansawdd eu bywydau trwy hunan-reoli.  

Mae'r pynciau'n cynnwys meddwl yn bositif, rheoli gweithgareddau dyddiol, cyfathrebu, ymlacio, meddyginiaeth, gweithgarwch corfforol, gwella cwsg, datblygu a chynnal eich cynllun gofal Hunan-reoli eich hun, gweithio gyda'ch timau gofal iechyd a datrys problemau.   


Byw gyda Phoen Parhaus 

Mae hwn yn gwrs 6 wythnos sy’n cynnwys un sesiwn 2.5 awr yr wythnos. Mae'n helpu oedolion sy'n byw gyda phoen cronig i gynnal a gwella ansawdd eu bywydau trwy hunan-reoli. 

Mae’r pynciau’n cynnwys deall poen cronig, gwneud pethau'n raddol a chynllunio, gwella cwsg, rheoli blinder, rheoli pwysau, delio ag emosiynau anodd a hwyliau isel, anadlu’n well, rheoli straen, gweithgarwch corfforol, bwyta’n iach, datblygu a chynnal eich cynllun gofal hunan-reoli eich hun, datrys problemau, gweithio gyda'ch timau gofal iechyd a gwneud penderfyniadau. 


Canser: Ffynnu a Goroesi 

Mae hwn yn gwrs 6 wythnos sy’n cynnwys un sesiwn 2.5 awr yr wythnos. Mae'n helpu oedolion yr effeithir arnynt gan ganser i gynnal a gwella ansawdd eu bywydau trwy hunan-reoli. 

Mae’r pynciau’n cynnwys rheoli poen a blinder, byw gydag ansicrwydd, newidiadau i’r corff, delio ag emosiynau anodd a hwyliau isel, gwella cwsg, gwneud penderfyniadau am driniaeth, gweithgarwch corfforol, bwyta’n iach, datblygu a chynnal eich cynllun gofal hunan-reoli eich hun, gweithio gyda’ch timau gofal iechyd, datrys problemau a gwneud penderfyniadau. 


Byw gyda COVID Hir 

Mae hwn yn gwrs 6 wythnos sy’n cynnwys un sesiwn 2.5 awr yr wythnos. Mae'n helpu oedolion sydd â symptomau COVID hir neu ôl-feirws, i gynnal a gwella ansawdd eu bywydau trwy hunan-reoli.   

Mae'r pynciau'n cynnwys rheoli poen a blinder, gwella cwsg, delio â hwyliau isel ac emosiynau anodd, atal cwympo, anadlu'n well, defnyddio meddyginiaeth, gweithgarwch corfforol, bwyta'n iach, datblygu a chynnal eich cynllun gofal hunan-reoli eich hun, datrys problemau a gwneud penderfyniadau. 


Gofalu Amdanaf i A Chi (Cwrs i Ofalwyr)

Mae hwn yn gwrs 6 wythnos sy’n cynnwys un sesiwn 2.5 awr yr wythnos. Mae'n helpu oedolion sy'n gofalu am rywun â chyflwr iechyd hirdymor i gynnal a gwella ansawdd eu bywydau trwy hunan-reoli.   

Mae’r pynciau’n cynnwys cadw’n iach, gwella blinder, gwella cwsg, cael cymorth, ymddygiad heriol, delio â meddyliau ac emosiynau anodd, cynllunio ar gyfer y dyfodol a materion cyfreithiol, ymlacio, datblygu a chynnal eich cynllun gofal hunan-reoli eich hun, datrys problemau a gwneud penderfyniadau. 


Byw gyda Diabetes Math 2

Mae hwn yn gwrs 6 wythnos sy’n cynnwys un sesiwn 2.5 awr yr wythnos. Mae'n helpu oedolion sy'n byw gyda diabetes math 2 i gynnal a gwella ansawdd eu bywydau trwy hunan-reoli.  

Mae’r pynciau’n cynnwys atal a monitro lefel isel o glwcos yn y gwaed, atal cymhlethdodau, bwyta’n iach, gweithgarwch corfforol, gofal traed, defnyddio cyfryngu, rheoli diwrnodau salwch, delio â straen, delio â hwyliau isel ac emosiynau anodd, datblygu a chynnal eich cynllun gofal hunan-reoli eich hun, datrys problemau a gwneud penderfyniadau. 


Cyflwyniad i Hunan-reoli 

Mae’r cwrs rhagarweiniol 3 awr hwn yn helpu oedolion sy’n byw gyda chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor a gofalwyr i gynnal a gwella ansawdd eu bywydau trwy hunan-reoli.

Mae'r pynciau'n cynnwys meddwl yn bositif, rheoli gweithgareddau dyddiol, cyfathrebu, ymlacio, meddyginiaeth, gweithgarwch corfforol, bwyta'n iach, datblygu cynllun gofal hunan-reoli CAMPUS a datrys problemau.