Neidio i'r prif gynnwy

Trafod Gwelliant, podlediad newydd sbon gan Gwelliant Cymru

Rydyn ni’n falch iawn o lansio ein cyfres podlediad newydd sbon, Trafod Gwelliant, sy’n cynnig gofod diogel i drafod popeth yn ymwneud â gwelliant. Byddwn yn trafod adnoddau, technegau, methodolegau, fframweithiau a phrofiadau personol o brosiectau gwelliant, gan edrych ar eu llwyddiannau a’u heriau.

Yn ein cyfres gyntaf, rydyn ni’n trafod straeon gwelliant o bob rhan o’r system iechyd a gofal yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn trafod pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth am sepsis a’r adnoddau a thechnolegau sy’n gysylltiedig â gwelliant ac arloesi.

Mae'r penodau'n cynnwys:

  • 'Barod i fynd', gwella llif cleifion a diogelwch cleifion yn Ysbyty'r Tywysog Siarl gyda Catherine Roberts, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Grŵp Lleoliad Integredig Merthyr a Chynon a Robert Foley, Pennaeth Llif Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
  • Codi ymwybyddiaeth am sepsis gyda Terence Canning, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru ar gyfer Ymddiriedolaeth Sepsis y DU.
  • Gwella ac arloesi gyda Dr Philip Webb, Prif Weithredwr Arloesedd Anadlol Cymru.
  • Y prif egwyddorion sydd wrth wraidd ‘Ffordd Toyota’ gyda Nick Pearn, Prif Arbenigydd Toyota Lean Management Centre.

Dywedodd John Boulton, Pennaeth Gwelliant Cymru, ‘Rydyn ni’n gyffrous iawn am lansiad ein podlediad newydd a fydd yn rhoi cyfle gwych i ddangos y gwaith gwelliant ardderchog sy’n digwydd ym maes iechyd a gofal yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn adnodd defnyddiol i addysgu ac ysbrydoli. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gyfres hon, mae wedi bod yn fraint cael clywed eich straeon.’

Bydd penodau’r gyfres gyntaf yn cael eu rhyddhau bob wythnos. Gallwch wrando a thanysgrifio i bodlediad Trafod Gwelliant ar Apple Podcasts, Spotify ac ar blatfformau podlediadau eraill.

Neu, gallwch wrando ar Spreaker.

Os hoffech gymryd rhan mewn pennod o’n podlediad yn y dyfodol, cwblhewch y ffurflen fer hon.