Neidio i'r prif gynnwy

Gwelliant Cymru'n cyhoeddi blaenoriaethau diogelwch Cydweithredol Gofal Diogel ledled Cymru

Mae Gwelliant Cymru yn falch o gyhoeddi’r blaenoriaethau diogelwch a rennir a nodwyd ledled Cymru ar gyfer y Gydweithredfa Gofal Diogel.

Mae’r Gydweithredfa Gofal Diogel yn rhan o’r Bartneriaeth Gofal Diogel sydd rhwng byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd GIG Cymru, Gwelliant Cymru a’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI). 

Mae'r gydweithredfa’n gyfle i sefydliadau ddysgu oddi wrth ei gilydd ac oddi wrth arbenigwyr yn y meysydd lle maen nhw eisiau gwneud gwelliannau.

Yn dilyn gwaith archwilio helaeth mewn partneriaeth â byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd eleni, mae prif weithredwyr byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ledled Cymru wedi cefnogi cynnwys y ffrydiau gwaith canlynol fel rhan o’r Gydweithredfa Gofal Diogel:

1.  Arweinyddiaeth ar gyfer gwella diogelwch cleifion - Gweithio gyda’n gilydd i gefnogi datblygu’r diwylliant a’r system ddysgu o fewn pob system iechyd a ledled GIG Cymru a sicrhau bod yr holl system yn gweithio tuag at nodau cyffredin a chyson.

2.  Gofal cymunedol diogel ac effeithiol - Cadw pobl yn ddiogel mewn lleoliadau yn y gymuned trwy rwystro dirywiad a cheir ymateb priodol i ofynion gofal iechyd dwys.

3.  Gofal dydd diogel ac effeithiol - Cadw pobl yn ddiogel yn yr amgylchedd gofal dydd, rhwystro derbyniadau i ysbytai a thrin anghenion gorâl dwys yn y lleoliadau mwyaf priodol.

4.  Gofal dwys diogel ac effeithiol - Cadw pobl yn ddiogel yn yr ysbyty, gan sicrhau bod strwythurau a phrosesau’n wydn mewn ymateb i ddirywiad dwys neu bryder.

Mae’r gydweithredfa’n ffocysu ar ddirywiad ar draws yr holl lwybr o ofal sylfaenol i eilradd i ofal cymunedol ac yn mynd i’r afael â dirywiad ym mhob poblogaeth (plant, oedolion a phobl hŷn). Mae’n defnyddio’r Fframwaith ar gyfer Gofal Diogel, Effeithiol a Dibynadwy er mwyn galluogi sefydliadau i wneud gwelliannau yn y prif achosion o ddirywiad gan gynnwys sepsis, heintiau fel haint y llwybr wrinol neu haint ar y frest, clefyd dwys, sawl salwch, salwch diwedd oes, methu rheoli cymhlethdodau a chymhlethdodau nad oes modd eu hosgoi.

Bydd gweithio ar y pedwar ffrwd gwaith ar yr un pryd yn cefnogi dysgu ar hyd y system ac effaith ar ofal diogel, dibynadwy ac effeithio trwy gydol taith y claf.

Meddai'r Athro John Boulton, Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru, "Rydym yn gyffrous ynghylch y cyfle hwn i gyflymu dysgu drwy brofiadau cyffredin y byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru ynghyd ag arbenigedd rhyngwladol gan y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI). Mae'r Gydweithredfa Gofal Diogel yn dod â thimau, hyfforddwyr, swyddogion gweithredol ac uwch arweinwyr diogelwch o bob rhan o'r byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru at ei gilydd er mwyn canolbwyntio ar nod cyffredin. Mae'n adeiladu ar waith sy’n bodoli eisoes a bydd yn helpu i gryfhau'r gallu i wella yn lleol ac yn genedlaethol. Diolch i bawb o bob rhan o Gymru sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda chi fel rhan o'r Gydweithredfa Gofal Diogel."

Mae adeiladu’r gallu eisoes yn mynd rhagddo i gefnogi’r Gydweithredfa Gofal Diogel drwy’r Arwain ar gyfer Diogelwch Cleifion a Hyfforddi ar gyfer Diogelwch Cleifion. Bydd y sesiwn dysgu cydweithredol gyntaf yn cael ei chynnal ar 29-30 Tachwedd 2022 ac mae timau'n cael eu recriwtio drwy eu harweinwyr gweithredol lleol ar gyfer ansawdd a diogelwch.