Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Cynhadledd Genedlaethol gyntaf Gwelliant Cymru ers y pandemig

Roedd Cynhadledd Genedlaethol Gwelliant Cymru (10-11 Mai) yn ddathliad o welliant ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys siaradwyr gwadd yn ymuno â'r gynhadledd o UDA, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Iwerddon, Lloegr a'r Alban. 

Cafodd ei darlledu'n fyw o stiwdio yng Nghaerdydd, ac ymunodd cynrychiolwyr ar-lein ac roedd cyfle i rwydweithio a dysgu am ystod eang o bynciau ar yr wybodaeth a'r profiadau diweddaraf ym maes gwella.

Agorwyd y digwyddiad gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a ddiolchodd i'r mynychwyr am eu hymrwymiad parhaus i iechyd a gofal yng Nghymru, a dywedodd, “Mae angen i ni ddysgu a gwella gyda'n gilydd. Mae heddiw'n cynnig llawer o gyfleoedd i'n helpu i ddatblygu ein taith ansawdd a diogelwch yng Nghymru.”

Yn ogystal, cyhoeddodd y Gweinidog y bydd Gwobrau GIG Cymru yn dychwelyd ar gyfer 2022 ac anogodd geisiadau o bob cwr o'r wlad i arddangos doniau ein timau iechyd a gofal anhygoel ledled GIG Cymru. 

Darganfyddwch fwy am y gwobrau a chyflwyno cais yma.

Mwynhaodd y rhai a fynychodd gyfres o drafodaethau panel a sgyrsiau am rannu arferion gorau timau ac arbenigwyr ledled Cymru a gweddill y byd. Roedd ffocws ar Systemau i Gefnogi a Gwella Diogelwch Cleifion. 

Roedd y gynhadledd yn cynnwys sesiynau ar: Diogelwch Cleifion yng Nghymru, Safbwyntiau Diogelwch yn y System, Llif Mwy Diogel, Rheoli er Ansawdd, a Dull System Gyfan tuag at Ddiogelwch.  Roedd sesiynau trafod ar Hanfodion Gofal Diogel (a oedd yn cynnwys Gofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, Arweinyddiaeth, Dibynadwyedd, Cyfathrebu a Gwaith Tîm).  Yn ogystal, cafwyd sesiynau meithrin sgiliau gan Academi Gwelliant Cymru a Labordy Q Cymru. 

Dywedodd John Boulton, Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru, “Diolch i bawb a fynychodd ac a gyfrannodd at y gynhadledd eleni. Cawsom ein difetha gan gyfres gyson o siaradwyr gwych yn cyflwyno sesiynau rhagorol. Rydym yn edrych ymlaen at gynllunio'r nesaf.”

Gwyliwch y gofod hwn am ragor o wybodaeth gan gynnwys dyddiad Cynhadledd Genedlaethol Gwelliant Cymru 2023.  Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, anfonwch e-bost atom yn improvementcymru@wales.nhs.uk

I gael rhagor o wybodaeth ac i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Wobrau GIG Cymru, ewch i gwobraugig.cymru