Neidio i'r prif gynnwy

Cynhadledd Genedlaethol Gwelliant Cymru 10 a 11 Mai 2022

Mae Gwelliant Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd eu Cynhadledd Genedlaethol yn cael ei chynnal ar-lein ar 10 ac 11 Mai 2022.  Dyma'r gynhadledd gwella ar gyfer Cymru gyfan sy'n dwyn ynghyd bawb sydd â diddordeb mewn gwella ar draws iechyd a gofal cymdeithasol ac sy'n gweithio arno i ddathlu, rhwydweithio a dysgu.

Bydd y digwyddiad deuddydd hwn yn cynnig cyfle i ddysgu o brofiad, ymchwil ac arferion da ynghylch gwella o Gymru a gweddill y byd.  Bydd y ffocws ar Systemau i Gefnogi a Gwella Diogelwch Cleifion. 

Bydd y gynhadledd yn cynnwys prif sesiynau ar y canlynol: Diogelwch cleifion yng Nghymru, safbwyntiau diogelwch yn ein system, llif cleifion mwy diogel, safbwyntiau o'r DU ac Iwerddon a rheoli ar gyfer ansawdd.  Yn ogystal, bydd sesiynau grŵp, cyfleoedd i adeiladu sgiliau ac i rwydweithio.

Bydd y digwyddiad hwn yn ddefnyddiol i staff sy'n gweithio ar bob lefel ym maes iechyd a gofal er mwyn iddynt ddysgu mwy am y syniadau diweddaraf o ran gwella a diogelwch cleifion.

Hon fydd Cynhadledd Genedlaethol gyntaf Gwelliant Cymru ers dros ddwy flynedd, cyn y pandemig.

Dywedodd John Boulton, Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru, “Mae’n gyffrous inni allu cynnal ein Cynhadledd Genedlaethol eto ac arddangos rhai o'r cyflawniadau anhygoel ym maes iechyd a gofal yng Nghymru.  Bydd llu o siaradwyr rhyngwladol yn rhannu eu profiadau hefyd ac edrychwn ymlaen at ddathlu a dysgu am wella a diogelwch cleifion.”

Mae rhagor o wybodaeth am raglen y gynhadledd a manylion archebu ar gael yma.