Daeth yr enillwyr o bob rhan o Gymru ac roedd yn cynnwys Grŵp Partneriaeth Profiad Covid Hir a Cherbyd Diagnostig Cardioleg Gymunedol.
Enillodd Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda'r wobr Cyfraniad Eithriadol at Drawsnewid Iechyd a Gofal am eu proseict ‘Cyflwyno Tîm Amlddisgyblaethol Gofal Canolraddol, Sir Gaerfyrddin.'
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:
“Mae’n wych gweld Gwobrau GIG Cymru yn ôl ar gyfer 2022. Maent yn destun balchder mawr i holl staff y GIG sy'n cysegru eu bywydau i anghenion a gofal eraill.
“Mae’r straeon ysbrydoledig am ymroddiad, dyletswydd ac arloesedd yn y modd yr ydym yn gofalu am fywydau eraill ac yn eu gwella mewn cyfnod mor heriol yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom. Mae’n taflu goleuni ar y staff gwych ac ymroddedig sydd gennym yn gweithio i GIG Cymru.
“Rwy’n hynod falch o fod y gweinidog sy'n gyfrifol am GIG Cymru ac rwy’n llongyfarch pawb sydd wedi’u henwebu ac sy’n ennill gwobrau. Diolch ichi am eich gwasanaeth ac am fod yn esiampl gadarnhaol i’r GIG a phobl Cymru.”
Cyrhaeddodd 24 o brosiectau’r rowndiau terfynol, a dyma’r naw buddugol yng Ngwobrau GIG Cymru 2019:
Cyflwyno iechyd a gofal gwerth uwch
Cyflwyno gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Grymuso pobl i gyd-gynhyrchu eu gofal
Cyfoethogi lles, gallu ac ymgysylltiad y gweithlu iechyd a gofal
Gwella iechyd a lles
Gwella diogelwch cleifion
Darparu gwasanaethau mewn partneriaeth ledled GIG Cymru
Gweithio’n ddi-dor ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector
Cyfraniad eithriadol at drawsnewid iechyd a gofal
Dywedodd Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru:
“Mae’n wirioneddol bwysig achub ar y cyfle hwn i ddathlu ein gweithlu ymroddedig a dawnus.
“Yn gynharach eleni, cefais y fraint o dderbyn Croes y Brenin Siôr, gwobr dewrder sifil uchaf y DU, ar ran GIG Cymru i gydnabod gwasanaeth eithriadol ac ymdrechion dewr gweithwyr gofal iechyd ledled y wlad.
“Rwy’n falch iawn o weld enghreifftiau pellach o hyn yn y rhai a enwebwyd a’r enillwyr yn y Gwobrau hyn. Mae pob un ohonynt yn gweithio mor galed i wella gwasanaethau i bobl Cymru.”
Caiff Gwobrau GIG Cymru eu trefnu gan Gwelliant Cymru, sef y gwasanaeth gwella ar gyfer GIG Cymru.
Dychwelodd y gwobrau eleni yn dilyn bwlch o ddwy flynedd oherwydd y pandemig COVID-19. Lansiwyd yn wreiddiol yn 2008 i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 60 oed, a chydnabod a hyrwyddo arfer da ledled Cymru.
Noddwyd y gwobrau eleni gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, C-Stem ac Armis, Core to Cloud, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac RCN Wales.
Derbyniwyd ceisiadau gan amrywiaeth o sefydliadau, sy’n dangos y safon uchel o waith arloesol ac amrywiol sydd wedi trawsnewid profiad a chanlyniadau pobl Cymru.