Neidio i'r prif gynnwy

Cronfa Gwobr Gwella ac Arloesi bellach ar agor

 

Nod Iechyd Cyhoeddus Cymru yw creu diwylliant sefydliadol sy'n cefnogi ac yn ysgogi ansawdd trwy wella ac arloesi. I gefnogi ein gwaith, fe wnaethom gynnal ymarfer cwmpasu yn fewnol ac yn allanol yn gynharach eleni i sefydlu Hyb ar gyfer Gwella ac Arloesi (I&I Hub). Rydym yn awr yn awyddus i gefnogi ein staff i ddatblygu eu gallu i wella ac arloesi yn ogystal â chyflwyno eu syniadau. I roi hwb i’r broses hon, mae’r ganolfan Gwella ac Arloesi (I&I) yn falch o gyhoeddi eu bod yn gwahodd ceisiadau ar hyn o bryd ar gyfer cefnogi syniadau ar gyfer gwella ac arloesi o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Pwrpas y gronfa yw darparu grantiau bach, fel arfer dim mwy na £10k ar gyfer pob prosiect. Y nod yw cefnogi prosiectau sydd â’r potensial i gyflwyno gwelliannau a hybu arloesi ym maes iechyd a gofal.

Yn ôl Felicity Hamer, Pennaeth Strategaeth ac Arloesi, Gwelliant Cymru, “Bydd yr hyb ar gyfer Gwella ac Arloesi (I&I) yn gweithio er mwyn cefnogi gwelliannau strategol ar raddfa eang yn ogystal â hybu arloesi a chynnig cyfle i rannu syniadau gan staff ar draws yr y cyfarwyddiaethau i gyd. Mae’r gronfa yn gyfle gwych i staff wneud cais am gymorth i wireddu syniadau digon syml ond syniadau sy’n gallu gwneud gwir wahaniaeth!”

Mae gennym ddiddordeb mewn ariannu prosiectau neu weithgareddau a all wneud newid cadarnhaol i’r ffordd rydym ni’n gweithio, sut mae pethau’n cael eu gwneud a sut y gallwn eu gwneud yn wahanol. Mae croeso arbennig ar gyfer syniadau sydd â’r potensial i gael eu gweithredu a’u lledaenu yn ystod y cyfnod wedi i’r grant ddod i ben. I dderbyn mwy o wybodaeth am y gronfa yna cymerwch olwg ar y nodiadau canllaw.

Bydd angen derbyn eich ceisiadau erbyn yr amser cau sef 17:00 ar ddydd Gwener, 7 Hydref 2022. Bydd yr ymgeiswyr yn derbyn gwybodaeth am ganlyniad eu cyflwyniad yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 24 Hydref.

Lawrlwythwch y ffurflen gais

Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol yna e-bostiwch Gwella ac Arloesi gan ddefnyddio’r cyfeiriad yma, PHW.Improvement&InnovationHub@wales.nhs.uk.