Mae'n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn cynnal Gwobrau GIG Cymru eto yn 2022 ar ôl seibiant ers 2019 oherwydd y pandemig.
Mae'r gwasanaeth cyfan wedi wynebu heriau enfawr dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac rydym i gyd yn falch iawn o gyflawniadau anhygoel GIG Cymru, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn.
Mae'r gwobrau hyn yn un ffordd o ddathlu rhagoriaeth ac arddangos talentau staff iechyd a gofal yng Nghymru wrth i ni symud ymlaen.
Gall unrhyw un sy'n gweithio yn GIG Cymru gystadlu yn y Gwobrau gan gynnwys myfyrwyr. Mae'r Gwobrau'n rhoi cyfle i bobl godi proffil eu gwaith ac i fod yn rhan o fudiad cenedlaethol i rannu dysgu ledled Cymru.
Bydd enillwyr yn cael cynnig cefnogaeth barhaus a bydd gennych lwyfan i rannu eich gwaith yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel y gallwn helpu i drawsnewid iechyd a gofal gyda'n gilydd.
Dyma'r categorïau:
Meddai’r Athro John Boulton, Cyfarwyddwr Gwella Cymru, "Rydym yn gyffrous i allu cynnal Gwobrau GIG Cymru eto eleni ar ôl cyfnod heriol iawn. Mae'n bwysig iawn ein bod yn dathlu'r gwaith gwych sy'n cael ei gyflawni ym maes iechyd a gofal ac mae hwn yn gyfle perffaith i wneud hynny. Pob lwc i bawb sy'n gwneud cais. Edrychwn ymlaen at gael gwybod am eich cyflawniadau.
Mae rhagor o wybodaeth am Wobrau GIG Cymru a sut i gystadlu ar gael yma.
Nodwch fod rhaid cyflwyno cais erbyn 5.00pm dydd Iau 30 Mehefin.