Neidio i'r prif gynnwy

Cyllid ar gael ar gyfer ymchwil i wella ac arloesi wrth ddarparu iechyd a gofal

Mae cyfarwyddiaeth Gwelliant Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach yn croesawu ceisiadau am ymchwil i gefnogi strategaeth Gwelliant Cymru ‘Gwella Ansawdd a Diogelwch’.

Lawrlwythwch y ffurflen gais

Diben y gronfa yw darparu grantiau bach, £25,000 (uchafswm) fesul prosiect, i gefnogi ymchwil sydd â'r potensial i sicrhau gwelliannau ac arloesi ym maes darparu iechyd a gofal.

Dylai'r ymchwil gyd-fynd â blaenoriaethau strategaeth Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwelliant Cymru. Dyfernir yr arian yn ystod y flwyddyn ariannol 2021-22. Croesewir cydweithio ehangach â sefydliadau partner.

Meini Prawf Hawl i Gymryd Rhan:

Rhaid i bob cais ddangos ffyrdd y mae'r ymchwil yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal gwell. Gall astudiaethau o'r fath fod yn ymchwil ansoddol, meintiol neu eilaidd a synthesis tystiolaeth, a dylent ddangos yn glir sut y gallent ddatblygu ymhellach yn astudiaeth ar raddfa fwy sydd o werth amlwg i'r GIG a gofal cymdeithasol.

Croesewir ceisiadau yn y meysydd canlynol yn arbennig:

  • Datrysiadau digidol i gefnogi gwelliannau o ran diogelwch cleifion.
  • Arloesi wrth ddarparu gofal.
  • Lleihau amseroedd aros mewn ysbytai ar gyfer gofal wedi'i gynllunio a chynllunio gofal uwch.
  • Modelau ar gyfer integreiddio gofal heb ei drefnu a chefnogi gofal yn nes at adref.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Bydd ceisiadau ar gyfer y cynllun yn cau am 17:00 ddydd Gwener 25 Chwefror 2022.

Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried.

Disgwylir i'r ymchwil ddechrau ar 1 Ebrill 2022 neu'n fuan ar ôl hynny.