Neidio i'r prif gynnwy

Pa werth mae Labordy Q Cymru yn ei ychwanegu?

Mae Labordy Q Cymru yn gweithio ochr yn ochr â thimau yn Gwelliant Cymru sy’n dylunio cymorth gwella i sefydliadau ledled GIG Cymru, gan weithio ar broblemau cymhleth sydd wedi’u nodi’n flaenoriaethau cenedlaethol gan gyfuniad o Lywodraeth Cymru, Prif Weithredwyr Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, a dadansoddeg genedlaethol i nodi meysydd sy’n peri pryder er mwyn cyflawni’r nod eang o leihau niwed. Rydym yn cefnogi gwelliannau i iechyd a gofal drwy wneud y defnydd gorau o dalent ac adnoddau ledled Cymru, ac rydym yn darparu arbenigedd mewn meddwl am ddylunio a dulliau creadigol a chydweithredol o newid.