Neidio i'r prif gynnwy

Ymweliadau Safle Sylfaenol

Mae'r Ymweliadau Safle Sylfaenol yn rhan o'r Bartneriaeth Gofal Diogel rhwng byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG Cymru, Gwelliant Cymru a'r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI).  Mae'r Bartneriaeth Gofal Diogel yn hyfforddi ac yn cefnogi byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i wella ansawdd a diogelwch gofal ar draws eu systemau.

Mae rhan o'r broses o fod yn y bartneriaeth yn cynnwys Ymweliad Safle Sylfaenol â'r bwrdd iechyd neu'r ymddiriedolaeth gan Gwelliant Cymru a'r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd. 

Pwrpas yr ymweliad safle yw deall diwylliant, systemau dysgu ac arweinyddiaeth sefydliad ar gyfer darparu a chynnal gofal iechyd diogel, effeithiol a dibynadwy.

Mae'r ymweliad yn rhoi cyfle i dreulio amser gydag unigolion, timau ac adrannau o amrywiaeth eang o leoliadau a gwasanaethau gofal i ddysgu am eu heriau a'u cyflawniadau. Mae hyn yn ein helpu i gael dealltwriaeth glir o sut y gallwn gefnogi'r gwaith o wella diogelwch cleifion.

Mae’r ymweliadau safle'n digwydd dros ddeuddydd mewn cydweithrediad â'r bwrdd iechyd neu’r ymddiriedolaeth ac mae adroddiad cryno o ganfyddiadau ac argymhellion yn cael ei gyflwyno i'r bwrdd iechyd neu’r ymddiriedolaeth gan Gwelliant Cymru a'r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd. Mae canfyddiadau’r ymweliadau ledled Cymru yn llywio ffocws y Gydweithredfa Gofal Diogel