Neidio i'r prif gynnwy

Cysylltiadau

Yma yn Academi Gwelliant Cymru, rydyn ni’n cydnabod mai un o'r ffyrdd mwyaf effeithlon o gydweithio, dysgu gwybodaeth newydd a rhannu’r hyn a ddysgwn yw drwy fanteisio ar bŵer rhwydweithio.

Drwy greu cysylltiadau ag arbenigwyr pwnc eraill ac estyn allan ar draws y cenhedloedd neu hyd yn oed y byd, gallwn fanteisio ar brofiad gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i bontio bylchau o ran gwybodaeth a rhannu syniadau.

Os ydych chi'n chwilio am safbwyntiau ffresh neu'n ceisio meithrin perthynas â phobl o'r un anian â chi, does dim angen i chi edrych yn bellach na rhwydweithiau sy’n gweithio’n agos â ni, fel Rhwydwaith Q y Sefydliad Iechyd.