Neidio i'r prif gynnwy

Brwsio Dannedd Gartref

Mae past dannedd fflworid yn helpu i gadw dannedd yn gryf.

  • Gall plant ddefnyddio past dannedd sy'n cynnwys fflworid (1000- 1450ppm F)
  • Brwsiwch ddannedd eich plentyn ddwywaith y dydd, yn enwedig cyn mynd i’r gwely gyda’r nos
  • Ar gyfer plant o dan 3 oed, defnyddiwch haen denau o bast dannedd yn unig
  • Ar gyfer plant dros 3 oed, defnyddiwch swm sydd yr un faint â physen

 I blant o dan 3                                                                        I blant dros 3

  • Mae angen cymorth i frwsio ar blant o dan 8 oed
  • Peidiwch â gadael iddynt rinsio eu cegau ar ôl brwsio, yn hytrach dylent boeri’r past dannedd allan yn unig
  • POERI NID RINSIO yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddefnyddio past dannedd fflworid 
  • Cofiwch fynd â brwsh a phast dannedd eich plentyn gyda chi pan fyddwch yn ymweld â theulu a ffrindiau a phan fyddwch yn mynd ar eich gwyliau
  • Hyd yn oed os bydd eich plentyn yn ymuno â rhaglen brwsio dannedd mewn meithrinfa/yn yr ysgol, mae’n dal i fod yn bwysig iddynt frwsio ei ddannedd gartref ddwywaith y dydd, yn enwedig cyn mynd i'r gwely

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

I gael cyngor ar beth i'w wneud os na fydd eich plentyn yn caniatáu ichi frwsio ei ddannedd,cliciwch yma.