Neidio i'r prif gynnwy

Ewch Amdani! Bwydydd a diodydd sy'n dda i'r dannedd

Llaeth a dŵr plaen yw’r unig ddiodydd diogel ar gyfer plant ifanc.

Rhowch gynnig ar fyrbrydau iach fel:

  • Darnau o lysiau
  • Caws a chracers
  • Ffrwythau ffres
  • Bara pita a hwmws
  • Bara
  • Tost

Mae ffrwythau a llysiau cyflawn yn bwysig iawn fel rhan o ddeiet iach. Maent yn cynnwys siwgr naturiol ond maent yn fwy diogel o fewn cell y ffrwyth.

Mae llaeth yn rhan bwysig iawn o ddeiet iach. Mae’n cynnwys siwgr naturiol ond math mwy diogel.