Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta'n Iach

Bwyta'n Iach

Bob tro y byddwch yn bwyta neu’n yfed rhywbeth sy’n cynnwys siwgr, gall bacteria plac ar eich dannedd greu asid sy’n ymosod ar wyneb y dant.

Ar ôl ychydig, bydd twll neu geudod yn ffurfio. Gelwir hyn yn bydredd dannedd. Er mwyn atal pydredd dannedd: 

  • Cyn gynted ag y byddwch yn dechrau rhoi bwyd i’ch plentyn (diddyfnu), peidiwch ag annog dant melys
  • Peidiwch ag ychwanegu siwgr at fwydydd a diodydd
  • Peidiwch â rhoi dymi mewn unrhyw beth melys
  • Peidiwch â rhoi diodydd llawn siwgr mewn poteli bwydo neu gwpanau babanod
  • Dylech leihau faint o siwgr rydych yn ei fwyta a pha mor aml rydych yn ei fwyta
  • Peidiwch â bwyta unrhyw fyrbrydau llawn siwgr rhwng prydau bwyd er mwyn rhoi amser i ddannedd adfer o’r ymosodiad gan yr asid
  • Peidiwch â rhoi unrhyw ddiodydd heblaw dŵr plaen a llaeth i blant ifanc

I gael mwy o wybodaeth am fwyta’n iach i blant, ewch i: Pob Plentyn

Am ragor o wybodaeth, adnoddau a chefnogaeth i helpu chi wneud dewisiadau bwyta'n iach, ewch i Sgiliau Maeth am Oes

 

 

RHYBUDD! SIWGR CUDD!

Gall rhai byrbrydau gynnwys mwy o siwgr nag yr ydych yn ei sylweddoli. Dyma rai enghreifftiau o fyrbrydau poblogaidd, sy’n cynnwys llawer o siwgr a all fod yn niweidiol i ddannedd.