Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw buddion gweithgarwch corfforol?

“Mae mwy na 60 mlynedd o ymchwil wedi dangos yn gyson bod gweithgarwch corfforol yn cael effaith fuddiol ar lawer o ganlyniadau iechyd corfforol a meddyliol ac yn lleihau marwolaethau cynamserol.” 

[CYF: Ekelund U, Dalene K, Tarp J and Lee I. Physical activity and mortality: what is the dose response and how big is the effect? British Journal of Sports Medicine 2020.]

Mae’r buddion cymdeithasol yn niferus ac yn cynnwys gwneud ffrindiau, cefnogaeth gan eraill, trefn a phwrpas, lleihau unigedd: (Rhai sylwadau gan rai sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen NERS) 

  • “Roedd yn gyfle da i gwrdd â phobl eraill oedd â’r un pryderon â mi” 
  • “Fe wnaeth y sesiynau i mi fynd allan o’r tŷ a rhoi diddordeb newydd i mi” 
  • “Fe wnes i ffrindiau newydd a mwynhau’r sgyrsiau gawson ni” 
  • “Rwy’n teimlo’n llawer mwy heini ac yn gallu chwarae gyda fy wyrion a’m hwyresau yn hirach nawr”