Neidio i'r prif gynnwy

Beth mae'r cynllun yn ei gynnwys?

Mae NERS yn cynnwys rhaglen 16 wythnos lle mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn cael asesiad cychwynnol a rhaglen ymarfer ar lefel addas a gaiff ei goruchwylio gan Weithiwr Proffesiynol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff. Gall gweithgareddau gynnwys dosbarth ymarferion cylch dwysedd isel neu'r gampfa ac yn dibynnu ar amserlenni lleol, efallai y bydd mynediad hefyd at weithgareddau fel Tai Chi, sesiynau dŵr neu weithgareddau awyr agored megis teithiau cerdded dan arweiniad. 

Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn cael adolygiad 4 wythnos ac 16 wythnos ac ar ddiwedd y rhaglen maent yn cael eu cyfeirio at ddosbarthiadau priodol/cyfleoedd gweithgarwch corfforol yn y gymuned leol i annog y rhai sy’n cymryd rhan i gadw'n egnïol. Mae adolygiad dilynol ar ôl 52 wythnos (1 flwyddyn) yn digwydd i asesu a yw’r rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn dal i fod yn gorfforol egnïol yn y tymor hir. 

Sylwch fod darpariaeth leol neu amseroedd aros ar gyfer atgyfeirio yn amrywio yn dibynnu ar argaeledd staff cymwys. Cysylltwch â'r Cydlynydd NERS lleolos oes gennych unrhyw ymholiadau.