Neidio i'r prif gynnwy

Am faint o amser?

Byddwch chi’n cymryd rhan yn y cynllun rhwng 4 a 32 wythnos yn ôl y rheswm dros eich atgyfeirio.  Bydd pob sesiwn tua un awr a bydd y gweithgareddau’n amrywio boed ymarfer yn y gampfa neu yn yr awyr agored. Mae disgwyl ichi fynychu’r sesiynau a dod i’r cyfweliadau dilynol ar ôl 16 a 52 wythnos. Rydyn ni’n cynnig cyrsiau yn ôl faint o staff cymwysedig sydd ar gael.  I gyflwyno unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r cydlynydd lleol.