Neidio i'r prif gynnwy

Podlediiad

Lles Ariannol yn y Gweithle

05/05/2022

Yn y bennod hon mae Geraint Hardy yn siarad â Rhian Hughes a Lawrence Davies o'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPs). Bydd gwrandawyr yn dod i ddeall beth yw lles ariannol, sut mae'n effeithio ar iechyd a lles a ble i fynd am gyngor a chymorth. Mae’r podlediad hefyd yn archwilio sut y gall cyflogwyr gael sgyrsiau hyderus a sensitif i gefnogi lles ariannol eu gweithlu.

 

Ffeindiwch y trawsgrifiad llawn a mwy o wybodaeth yma.

Dolenni Defnyddiol:

Cymru Iach ar Waith - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

The Money and Pensions Service

www.helpwrarian.org.uk

Wythnos Siarad Arian | The Money and Pensions Service (maps.org.uk)

www.retirementlivingstandards.org.uk/

Iechyd Planedol: Gweithred Cyflogwr ar Gynaliadwyedd Amgylcheddol

05/05/2022

Yn y bennod hon mae Geraint Hardy yn siarad â Rhian Wildi, sy’n gynrychiolydd siaradwr Cymraeg Cymru Iach ar Waith ac yr elusen Busnes yn y Gymuned Cymru (BITC) ac yn archwilio sut mae cyflogwyr yn gweithredu i ddod yn fwy cynaliadwy.

Bydd gwrandawyr yn dysgu sut mae'r pandemig yn rhoi cyfle i fyfyrio ac ailffocysu ar leihau ôl troed carbon sefydliadau ac ar yr un pryd nodi'r buddion i iechyd a'r economi, amlinellu sut i gynllunio twf cynaliadwy a chynhwysol, a darparu enghreifftiau o gamau gweithredu tymor byr a chanolig gall gwrandawyr eu cymryd i leihau effaith amgylcheddol ym mhob agwedd o’u gweithrediadau busnes.

 

Ffeindiwch y trawsgrifiad llawn a mwy o wybodaeth yma.

Dolenni Defnyddiol:

Cymru Iach ar Waith - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Business in the Community Cymru - Business in the Community (bitc.org.uk))

The Future Generations Commissioner for Wales – Acting today for a better tommorrow

Climate Action Plans & Business Sustainability | The Carbon Trust

Covid-19 a llesiant meddyliol staff

05/08/2021

Mae COVID-19 wedi effeithio ar bob rhan o fywyd bob dydd ac wedi newid ein ffordd o fyw, gweithio a chymdeithasu. I lawer, mae'r amseroedd eithriadol hyn wedi bod yn gythryblus ac yn straen. Felly mae amddiffyn ein hiechyd meddwl heddiw ac yn y dyfodol yn bwysicach nag erioed. Yn y bennod hon, mae Geraint Hardy yn siarad â Claire Lynch, Hyfforddwr Lles ac Adnoddau Dynol RCS Cymru am sut y gall cyflogwyr gefnogi lles meddyliol eu staff yn y gweithle.

 

Dolenni defnyddiol:

RCS Cymru: https://rcs-wales.co.uk/cy/

Sudden: https://sudden.org

Remploy Cymru: https://www.remploy.co.uk/remploy-cym...

Able Futures: https://able-futures.co.uk/cymraeg

Mind Cymru: https://www.mind.org.uk/cy/mind-cymru/

Iechyd Meddwl yn y Gweithle

05/08/2021

Mae dau o bob pump o bobl wedi dioddef o iechyd meddwl gwael lle'r oedd eu ffordd o weithio yn ffactor, yn ôl yr ystadegau. Felly sut mae cyflogwyr yn rheoli iechyd meddwl yn fwy effeithiol yn y gweithle? Sara Moseley o Mind Cymru sy’n siarad â Geraint Hardy am y materion sy'n wynebu cyflogwyr a gweithwyr o safbwynt iechyd meddwl.

 

Dolenni defnyddiol:

Mind Cymru: https://www.mind.org.uk/cy/mind-cymru/

Rheoli Absenoldeb

05/08/2021

Gall absenoldeb oherwydd salwch effeithio'n sylweddol ar berfformiad a chynhyrchiant sefydliad ac mae ystadegau’n dangos bod mwy na 140 miliwn o ddiwrnodau gwaith yn y DU yn cael eu colli oherwydd salwch neu anaf. Mae Rhian Richards o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn siarad â Geraint Hardy am yr hyn y mae angen i gyflogwyr ei wneud i reoli absenoldeb salwch orau, gan gynnwys defnyddio'r nodyn iach i weithio.

 

Dolenni defnyddiol:

Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://icc.gig.cymru/