Neidio i'r prif gynnwy

Gwirio Statws Uwch

Cyflwyniad i Wiriadau Statws Uwch

Mae Cymru Iach ar Waith (CIW) yn y broses o ddatblygu model cyflawni a rhaglen wobrwyo newydd i ymestyn ei gyrhaeddiad i ragor o weithleoedd, i adlewyrchu natur newidiol gwaith a’r gweithle, ac i ddiwallu anghenion cyflogwyr ledled Cymru yn well. Bydd y model newydd yn cynnwys offer ar-lein a rhagor o gymorth grŵp i gyflogwyr.

Wrth i ni drosglwyddo i’r rhaglen wobrwyo newydd, rydym wedi datblygu datrysiad interim, o’r enw ‘Gwiriad Statws Uwch’, ar gyfer cyflogwyr presennol CIW sydd â dyfarniad neu wiriad statws cyfredol sydd ar fin dod i ben, ac sy’n adeiladu ar y gwiriad statws ail-ddilysu llai manwl a gyflawnwyd gan lawer o gyflogwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r cynnig Gwirio Statws Uwch wedi dod i ben. Llongyfarchiadau i'n holl gyflogwyr sydd wedi ennill eu Gwobr Gwirio Statws Uwch.

Deiliaid Gwobr Gwiriad Statws Uwch Llwyddiannus