Neidio i'r prif gynnwy

Dirwyn Cynllun Gwobrwyo Cymru Iach ar Waith i Ben

Ar ôl sawl blwyddyn lwyddiannus, mae rhaglen wobrwyo Cymru Iach ar Waith yn dod i ben. Mae hyn yn cynnwys y Safon Iechyd Gorfforaethol a Gwobr Iechyd y Gweithle Bach, yn ogystal â'r Gwiriadau Statws Uwch a gyflwynwyd gennym yn ystod y pandemig COVID-19 ac wedi hynny.

Ceir rhagor o wybodaeth am y rhesymau am hyn a’n harlwy digidol newydd yma.

O ganlyniad i’r newid i gynnig digidol gwell, ni fyddwn yn parhau â’r gwaith o ddatblygu rhaglen o wobrau modiwlaidd newydd sy’n seiliedig ar bynciau fel y bwriadwyd yn wreiddiol.

I gydnabod y gwaith caled a’r ymrwymiad i ennill gwobr Cymru Iach ar Waith (gan gynnwys y Gwiriadau Statws Uwch a gynhaliwyd yn 2022/23), bydd y rhai sy’n dal gwobr ar hyn o bryd yn gallu cadw eu dyfarniad presennol a’i ddefnyddio er cyhoeddusrwydd nes iddo ddod i ben.

Bydd y gwaith o ddarparu canllawiau ac adnoddau ar yr ystod lawn o bynciau iechyd sy’n gysylltiedig â gwaith, a gwmpaswyd yn flaenorol gan ein gwobrau, yn parhau i fod yn ffocws pwysig i'n gweithgareddau drwy'r wefan hon.

Bydd y meini prawf a'r dogfennau fframwaith ar gyfer y Safon Iechyd Gorfforaethol a Gwobrau Iechyd y Gweithle Bach yn parhau i fod ar gael i'w gweld ar ein gwefan, a bydd yn bosibl parhau i’w defnyddio i gynnig arweiniad hollbwysig i sefydliadau sy'n awyddus i flaenoriaethu iechyd a llesiant eu gweithlu.

Rydym yn defnyddio'r dogfennau hyn yn rheolaidd i helpu i ddatblygu rhestrau gwirio ar gyfer cynlluniau gweithredu, a hynny fel adnoddau digidol i gyflogwyr eu defnyddio. Bydd y rhestrau gwirio yn cynnig arweiniad ymarferol ar gyfer gweithredu strategaethau yn effeithiol wrth ymdrin â phynciau penodol yn ymwneud ag iechyd a llesiant, a byddant yn dechrau cael eu lansio dros y misoedd nesaf. Rydym yn gobeithio y gellir eu defnyddio i gefnogi sefydliadau ar eu taith tuag at greu gweithleoedd iach a ffyniannus.

Rydym wir yn gwerthfawrogi ymroddiad ac ymdrech pawb sydd wedi ennill gwobr Cymru Iach ar Waith dros y blynyddoedd. Hoffem hefyd fynegi ein diolch arbennig i gwmni Emma George Consulting am ei gefnogaeth amhrisiadwy a'i waith caled wrth ddarparu asesiad allanol ar gyfer y gwobrau ac wrth hwyluso'r Gwiriadau Statws Uwch.

Er ein bod yn dod â rhaglen wobrau Cymru Iach ar Waith i ben, rydym am eich sicrhau bod ein tîm yn cydnabod y rôl hollbwysig y mae cyflogwyr yn ei chwarae wrth greu gweithleoedd iach a diogel a hyrwyddo llesiant gweithwyr. Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth ac ymgysylltiad parhaus y rhai yr ydym wedi eu gwobrwyo, ac edrychwn ymlaen at helpu i adeiladu ar ein cydymdrechion i hyrwyddo llesiant yn y gweithle.

I weld sut mae ffocws rhaglen Cymru Iach ar Waith yn newid, darllenwch fwy yma.

Safon Iechyd Corfforaethol a Gwobrau Iechyd y Gweithle Bach

 

Gwirio Statws

 

Digwyddiad Canmoliaeth COVID-19