Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cymorth gydag Iechyd ac Anabledd Gweithwyr

Mae’r gwasanaeth Cymorth gydag Iechyd ac Anabledd Gweithwyr newydd wedi’i ddatblygu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i helpu cyflogwyr a rheolwyr i ddarparu gwell cymorth i bobl anabl a’r rhai â chyflyrau iechyd yn y gweithle.

Mae’r gwasanaeth wedi’i greu i annog amgylcheddau gwaith mwy cynhwysol, wedi’i anelu’n benodol at fusnesau llai, nad oes gan lawer ohonynt adnoddau dynol na chymorth iechyd galwedigaethol mewnol.

Bydd y canllaw yn helpu gyda’r canlynol:

  • rheoli absenoldebau a chadw mewn cysylltiad
  • cael sgyrsiau gyda gweithwyr, yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith
  • penderfynu ar newidiadau i helpu gweithwyr i aros neu ddod yn ôl i weithio

Gall unrhyw gyflogwr gael mynediad at y gwasanaeth, a gwahoddir busnesau i brofi a llunio’r gwasanaeth newydd trwy arolwg byr ar-lein. Bydd yr adborth a gawn yn llywio diweddariadau pellach i'r wefan dros y tair blynedd nesaf, fel y gall cyflogwyr gefnogi staff anabl a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor yn y ffordd orau i ddechrau, aros a llwyddo yn y gwaith.

Cliciwch yma i gael eich cyfeirio at y gwasanaeth Cymorth gydag Iechyd ac Anabledd Gweithwyr.