Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n Gorfforol Iach

Cadw'n Gorfforol Iach

Mae'n adeg ansicr i ni i gyd ac mae aros gartref yn golygu ei bod hi'n anoddach nag arfer cadw'n gorfforol iach. Ond mae camau y gallwn eu cymryd i fynd i'r afael â materion a allai ein hatal ni o gynnal y lles corfforol hwnnw.

  • Mae cadw'n egnïol, beth bynnag yw eich oedran neu'ch gallu, yn dod â buddiannau gwirioneddol i'ch iechyd corfforol a'ch llesiant meddyliol.
  • Gall cadw'n egnïol olygu bod yn egnïol yn eich cartref a'ch gardd: gwneud swyddi a thasgau yn y cartref, chwarae gemau gyda'ch plant neu roi cynnig ar raglen ymarfer corff strwythuredig sy'n addas i chi.
  • Gall cadw'n egnïol olygu defnyddio'r amser ymarfer corff dyddiol yn yr awyr agored y mae canllawiau'r Llywodraeth yn ei ganiatáu, i fynd am dro, rhedeg neu feicio, gan gofio gwneud hyn yn agos at eich cartref a phan allwch fod yn siŵr o ddilyn y rheolau cadw pellter cymdeithasol, i'ch cadw chi ac eraill yn ddiogel.

Mae llawer o ganllawiau swyddogol ar gael (Canllawiau Prif Swyddog Meddygol y DU 2019) a thystiolaeth am fanteision gweithgarwch corfforol ac osgoi eistedd yn llonydd yn rhy hir.

Rydym yn gwybod y bydd cadw i symud yn ystod sefyllfa COVID19 yn helpu ein hiechyd corfforol a'n llesiant meddyliol. Bydd cynllunio ein gweithgarwch corfforol yn ein helpu i roi rhywfaint o drefn a strwythur i'r dydd, bydd yn helpu i reoli ein lefelau straen ac yn gwella ein cwsg 

I'r rhai ohonoch sydd â phlant a phobl ifanc gartref, mae hwn yn gyfle gwych i dreulio mwy o amser yn chwarae ac yn rhannu ychydig o hwyl â nhw.  Mae plant yn dysgu drwy chwarae a gyda'ch gilydd gallwch losgi rhywfaint o'u hegni a helpu i roi trefn ar eu diwrnod. Gall amser chwarae fod yn werthfawr i oedolion hefyd! Mae gan Chwarae Cymru rywfaint o gyngor ac adnoddau gwych i rieni a gofalwyr yma.

Ymarferion cartref ysgafn

Arghymellwyd gan y GIG, mae’r ymarferion hyn ar gyfer pobl sy’n newydd i ymarfer efallai a hefyd y rhai sydd eisiau dechrau’n araf cyn adeiladu eu ffitrwydd. 

 

Dyma rai gwefannau a fydd yn cynnwys dolenni defnyddiol i adnoddau a chyngor:
 

Sefydliad Iechyd y Byd


Chwaraeon Cymru


Chwaraeon Lloegr

Mae Chwaraeon Lloegr wedi lansio ymgyrch Join the Movement a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, gan roi cyngor a dulliau i helpu pobl i gadw'n gorfforol egnïol wrth i'r wlad ddelio â'r achos o'r coronafeirws.  Mae'r wefan yn cynnwys gweithgareddau a rhaglenni i bob oedran a phob gallu . 

Chwarae Cymru

Mae Chwarae Cymru yn elusen annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n gweithio i godi ymwybyddiaeth o'r angen a'r hawl sydd gan blant a phobl ifanc i chwarae. Ar adeg argyfwng COVID19, mae Chwarae Cymru wedi tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae i iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc. Mae gwefan Chwarae Cymru yn rhoi cyngor a chymorth i rieni a dulliau i roi syniadau newydd i rieni ar sut i gefnogi chwarae eu plant gartref.
 

Y GIG

Mae gan wefan y GIG rai dolenni defnyddiol ar gyfer ymarfer corff gartref.