Gall amgylchedd gwaith iach wella ansawdd bywydau pobl, yr amgylchedd ehangach, a gall fod yn rym er lles wrth helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd a hefyd wrth ddarparu cymorth i grwpiau difreintiedig.
Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am sut y gall cyflogwyr wneud y canlynol:
- Dangos ymrwymiad ar y lefel uchaf i iechyd a llesiant eu staff
- Creu amgylchedd ffyniannus sy'n gyfartal, yn amrywiol ac yn gynhwysol
- Dod yn gyflogwyr gwaith teg gyda chyfathrebu ac ymgysylltu dwyffordd cryf â staff
- Sicrhau bod y gweithle yn iach ac yn ddiogel i’r holl staff
- Gweithio tuag at gynaliadwyedd amgylcheddol
- Dangos ymrwymiad i'r gymuned ehangach trwy eu polisïau a'u harferion