Mae'r graddau y mae gweithlu yn teimlo bod cyflogwr yn ymgysylltu ag ef, a pha mor dda y mae'n cyfathrebu ag ef, yn ffactorau hollbwysig o ran perfformiad sefydliad. Mae cyflogeion brwd yn beth da i fusnes am fod gwaith ymchwil yn dangos dro ar ôl tro fod cyswllt cadarnhaol rhwng lefelau ymgysylltu, a pherfformiad, cynhyrchiant, arloesi ymhlith staff, gwasanaeth cwsmeriaid, eiriolaeth staff, ac absenoldebau.
Mae sefydliadau nad ydynt yn ymgysylltu â'u gweithlu yn wynebu risg y byddant yn colli eu staff gorau ac yn wynebu anawsterau wrth ymgorffori newid sefydliadol. Amcangyfrifir bod dwy ran o dair o gyflogeion yn y DU yn teimlo bod eu cyflogwr yn ymgysylltu â hwy, a gall sefydliadau sy'n ymgysylltu â'u gweithlu weld eu cynhyrchiant yn cynyddu hyd at 20%. Mae cyflogeion sy'n teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn y gweithle yn fwy tebygol o greu cydberthnasau cadarnhaol, gan helpu i feithrin diwylliannau cadarnhaol yn y gweithle.
Cyfeiriadau
Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (2014), ffeithlen ar gyfathrebu â chyflogeion, Rayton, B., Dodge, T. a D’Analeze, G. (2012). Engage for Success: the evidence.