Neidio i'r prif gynnwy

Achub Bywyd Cymru

Bob blwyddyn yng Nghymru, bydd dros 6,000 o bobl yn cael ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ac, yn aml, maent yn digwydd yn sydyn a heb rybudd.  

Mae marwolaeth yn debygol heb gydnabyddiaeth gynnar a gweithredu ar unwaith yn ystod ychydig funudau cyntaf ataliad y galon.

Mae ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn derm a ddefnyddir ar gyfer ataliad y galon sy'n digwydd yn sydyn pan fyddwch yn mynd o gwmpas eich bywyd o ddydd i ddydd yn eich cymuned, yn eich y gwaith, yn dilyn eich gweithgareddau hamdden neu'n ymlacio gartref.

Gall ddigwydd unrhyw bryd ac i unrhyw un o unrhyw oedran – p'un a ydych yn wryw neu'n fenyw, yn ifanc neu'n hen. 

Bydd eich siawns o oroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn gostwng 10% gyda phob munud sy'n mynd heibio os nad yw rhywun yn rhoi cynnig ar berfformio adfywio cardio-pwlmonaidd ( CPR)  a defnyddio diffibriliwr.

Mae gwneud rhywbeth bob amser yn well na gwneud dim byd, ac mae’n beth da i gofio’r camau syml o ffonio 999, perfformio CPR ar unwaith, defnyddio diffibriliwr, a pharhau ag CPR a’r diffib tan fydd y criw ambiwlans yn cyrraedd. 

Yng Nghymru, mae’r gyfradd goroesi ar ôl ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yn llai na 5%. Cymharwch hyn â Lloegr, sydd â chyfradd goroesi o 10%, a’r Alban 9% – ac mewn rhai gwledydd Ewropeaidd a dinasoedd UDA, mae’r gyfradd goroesi tua 25%. 

Felly, mae gan Gymru ffordd bell i fynd. Ond gall dysgu sut i berfformio CPR a defnyddio diffibriliwr wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gyda'ch cymorth chi, byddwn yn dechrau gweld mwy o bobl yn goroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yma yng Nghymru. 

Amdanon Achub Bywyd Cymru

Sefydlwyd Achub Bywydau Cymru yn 2019 gan Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol: 

  • Sicrhau bod pobl yn gwybod beth i'w wneud os bydd ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn digwydd
  • Cynyddu nifer y bobl sy'n fodlon rhoi cynnig ar CPR
  • Cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ddiffibrilwyr
  • Sicrhau bod siawns pawb o oroesi ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty'r un fath ledled Cymru.

Hyfforddiant

Hyfforddiant ymgyfarwyddo CPR

Byddem yn argymell fod pawb yn ymgyfarwyddo â chamau CPR a diffibrilio  naill ai drwy hyfforddiant digidol ar-lein, darllen taflen ymwybyddiaeth Achub Bywyd Cymru neu gofrestru i gwrs ar-lein neu gyfarwyddyd wyneb yn wyneb.

Dyma rai dolenni defnyddiol

Hyfforddiant digidol

Mae'r British Heart Foundation (BHF) wedi creu RevivR™ fideo hyfforddi CPR rhyngweithiol ar-lein. Mae'n cymryd 15 munud, o fewn cyfforddusrwydd eich cartref, i ddysgu'r sgiliau sylfaenol. 

Wyneb yn wyneb ac ar-lein

Y Groes Coch Brydeinig  

St John Cymru  

Achub Bywyd Cymru