Neidio i'r prif gynnwy

Argaeledd Brechlyn y Fflliw

 

Beat Flu


ARGAELEDD BRECHLYN Y FFLIW

Cyhoeddwyd 21 Hydref 2020 (Diweddarwyd: Tachwedd 3 2020)



Pam bydd rhaid i chi aros am eich brechiad ffliw eleni efallai
 

Gall y ffliw fod yn ddifrifol i rai pobl a dylai'r rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf o gymhlethdodau gael brechiad y ffliw bob blwyddyn. Dylai'r bobl sy'n gofalu amdanynt gael brechiad ffliw blynyddol hefyd, i helpu i'w diogelu rhag dal a lledaenu'r ffliw. Y gaeaf hwn mae'n arbennig o bwysig, gan y bydd y ffliw a COVID-19 (y coronafeirws) yn bodoli ochr yn ochr â’i gilydd.

Mae'r rhai sy'n gymwys ar hyn o bryd i gael brechiad ffliw am ddim gan y GIG yn cynnwys y canlynol:

  • pobl â chyflwr iechyd tymor hir
  • unrhyw un ag anabledd dysgu
  • pawb 50 oed a hŷn (oedran ar 31 Mawrth 2021)
  • merched beichiog, plant rhwng dwy a deng mlwydd oed (oedran ar 31 Awst 2020)
  • gofalwyr, gofalwyr cartref a staff cartrefi gofal sydd â chyswllt rheolaidd â chleientiaid
  • preswylwyr cartrefi gofal
  • plant 2 i 10 oed (ar 31 Awst 2020)

Mae'r galw am frechiadau wedi bod yn uchel eleni. Mae mesurau atal a rheoli heintiau ychwanegol mewn meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol i helpu i gadw pobl yn ddiogel hefyd yn golygu bod apwyntiadau'n cymryd ychydig mwy o amser nag arfer.

Mae meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol ym mhob man yn cael llawer o ymholiadau, a gofynnir i rai pobl aros mwy nag arfer am apwyntiad. Bydd digon o frechiadau ar gael i’r rhai sy’n cael eu hargymell i gael brechiad ar hyn o bryd.

Mae gwahanol fathau o frechiad ffliw ar gael ac mae rhai'n gweithio'n well ar gyfer gwahanol grwpiau oedran. Mae'r brechiad yn cael ei ddarparu mewn sypiau dros nifer o wythnosau. Mae hyn yn golygu y gellir cynnig brechiad y ffliw i rai pobl os yw ar gael a gofynnir i eraill aros nes bod y brechiad gorau ar gyfer eu hoedran hwy mewn stoc. Mae'n well aros a chael y brechiad iawn i chi er mwyn i chi gael y budd gorau ohono.

Yn ddelfrydol, dylid rhoi brechiad y ffliw cyn i'r ffliw ddechrau cylchredeg.

Mae meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol yn gweithio'n galed i gynnig brechiadau cyn gynted ag y bydd ganddynt gyflenwadau. Mae digon o frechiadau a bydd mwy o apwyntiadau ar gael yn fuan.