Neidio i'r prif gynnwy

Dangosfwrdd Trosolwg Cyflym Iechyd Cyhoeddus Cymru



Beth yw'r Dangosfwrdd Trosolwg Cyflym Iechyd Cyhoeddus Cymru? 

Cyhoeddedig: 14 Medi 2023

Mae datganiad cyntaf Dangosfwrdd Trosolwg Cyflym Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i greu gan y Tîm dadansoddi yr Arsyllfa a Canser a Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy, ar gael nawr.

Gan mai hwn yw ein datganiad cyntaf, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd I’w wella a ddatblygu i sicrhau eu bod yn hawdd i defnyddio ac yn bodloni gofynion defnyddwyr. Ar ol I chi ddefnyddio’r dangosfwrdd, bidden yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau neu adborth. Cysylltwch a ni yn: Publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk


Nod y dangosfwrdd yw edrych ar y darlun mawr ar anghydraddoldebau iechyd ac iechyd poblogaeth yng Nghymru, ac olrhain sut mae'r rhain yn newid dros amser.

Mae'r dangosfwrdd yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar draws cyfres o bynciau. Ar hyn o bryd, gallwch archwilio data mewn perthynas â:

  • Clefydau trosglwyddadwy
  • System (GIG) gallu i ymateb i bwysau
  • Marwolaethau gormodol
  • Ymddygiad iach a lles
  • Penderfynyddion ehangach

Crëwyd y dangosfwrdd i ddarparu cyfres o ddangosyddion amserol lefel uchel, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu diweddaru naill ai bob pythefnos neu bob mis.

 

Map dangosydd 

Datblygiadau

Er mwyn sicrhau bod y dangosfwrdd yn gyfredol, caiff data'r siart ei adnewyddu bob pythefnos neu bob mis, yn dibynnu ar ffynhonnell y data.  Sylwch fod rhai dangosyddion yn cael eu diweddaru bob chwarter, neu hirach, ac nid yw rhai yn cael eu diweddaru mwyach, oherwydd argaeledd data. Gellir dod o hyd i wybodaeth am yr amserlen diweddaru ar gyfer dangosyddion penodol yn eu hadran metadata ar y dangosfwrdd.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddangosyddion pellach wedi'u cynllunio i'w cynnwys, fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau bod y dangosfwrdd yn cyd-fynd ag anghenion defnyddwyr. Bydd ymgyrchoedd atgyfnerthu COVID-19 yn cael eu diweddaru i adlewyrchu'r ymgyrch bresennol.

Bydd unrhyw ddatblygiadau arfaethedig yn y dyfodol yn cael eu dogfennu yma.

Adborth  

Gan mai hwn yw ein datganiad cyntaf, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd I’w wella a ddatblygu i sicrhau eu bod yn hawdd i defnyddio ac yn bodloni gofynion defnyddwyr. Ar ol I chi ddefnyddio’r dangosfwrdd, bidden yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau neu adborth. Cysylltwch a ni yn: Publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

Adroddiad technegol

Mae'r adran isod yn cynnwys adrannau sy'n darparu gwybodaeth gefndirol ar gyfer yr holl ffynonellau data a ddefnyddir yn y dangosfwrdd.  Mae hefyd yn cynnwys ein datganiad hygyrchedd.

Adroddiad technegol

ICNET 

ICNET yw’r feddalwedd oruchwylio glinigol a ddefnyddiwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gasglu’r data a ddefnyddiwyd yn nangosydd cyfnodau yn yr ysbyty oherwydd COVID-19.

Ar gyfer y dangosydd hwn, mae achos yn cael ei ddiffinio fel prawf PCR SARS-CoV-2 positif a gymerwyd yng Nghymru. Ar gyfer data hyd at 25/05/2022, mae un prawf positif y person o fewn cyfnod o 42 diwrnod yn cael ei gyfrif fel achos. O 26/05/2022, mae’r cyfnod dad-ddyblygu wedi cynyddu i 90 diwrnod.

Mae derbyn i’r ysbyty yn cael ei ddiffinio fel aros mewn ysbyty dros nos. Mae’r diwrnod derbyn yn cael ei gyfrif fel diwrnod 1 o arhosiad claf mewnol ac mae trosglwyddiadau i ysbytai eraill o fewn yr un bwrdd iechyd yn cael eu hystyried fel yr un arhosiad parhaus i’r claf mewnol.

Mae data profion yn cael eu cymryd o gronfa ddata Storfa Ddata Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae data derbyniadau ysbytai yn cael eu cymryd o systemau gweinyddol cleifion ysbytai drwy ICNET. Mae data profion a derbyniadau’n cael eu cysylltu drwy ddefnyddio rhif GIG y claf.

Defnyddir y set ddata yn ffigwr 1 ar y dudalen 'Clefydau trosglwyddadwy'. 

 

System Imiwneiddio Cymru (WIS) 

System wybodaeth ar gyfer rheoli, dosbarthu ac adrodd Rhaglen Frechu COVID-19 yw System Imiwneiddio Cymru (WIS).

Mae’r system yn defnyddio gwybodaeth am ddemograffeg cleifion, grwpiau galwedigaethau a lefelau blaenoriaeth y cytunwyd arnynt ar gyfer derbyn y brechiad, i alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i drefnu apwyntiadau i gleifion. Gall greu slotiau apwyntiadau a manylion cofnodion am bob brechiad o bob brechlyn COVID-19 a weinyddir yng Nghymru.

Mae’r data ar gyfer ein dangosyddion brechiad COVID-19 yn cael eu cyflenwi gan y system hon.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan WIS DHCW.

Defnyddir y set ddata yn ffigwr 2 ar y dudalen 'Clefydau trosglwyddadwy'. 

 

Rhaglen Heintiau, Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Phresgripsiynu sy’n gysylltiedig â Gofal Iechyd (HARP), Heintiau sy’n gysylltiedig â Gofal Iechyd (HCAI) a Llyfrgell Data Gwrthfiotigau

Mae’r Rhaglen Heintiau, Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Phresgripsiynu sy’n gysylltiedig â Gofal Iechyd (HARP) yn cefnogi’r GIG yng Nghymru i leihau baich gofal iechyd sy’n gysylltiedig â heintiau ac ymwrthedd gwrthficrobaidd ledled Cymru. Caiff ei ddarparu trwy adborth data goruchwylio a hyrwyddo presgripsiynu gwrthficrobaidd priodol ac ymyriadau i atal lledaeniad heintiau.

Mae’n dîm amlddisgyblaeth sydd ag arbenigedd mewn atal a rheoli heintiau, microbioleg feddygol, presgripsiynu ac ymwrthedd gwrthficrobaidd, goruchwyliaeth ac epidemioleg.

Defnyddir gwybodaeth o HARP yn ein dangosyddion ar HCAI ac ymwrthedd gwrthficrobaidd a defnydd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan HARP.

Defnyddir y set ddata yn ffigwr 5, 6 a 7 ar y dudalen 'Clefydau trosglwyddadwy'. 

 

National Community Child Health Database (NCCHD) 

The National Community Child Health Database (NCCHD) includes details relating to maternal and child health related indicators such as births, immunisation screening, safeguarding children and breastfeeding.     

Each of the seven health boards in Wales has a Child Health System database which they manage locally. Anonymised records for all children born, resident or treated in Wales and born after 1987 are collated from each of the local databases each quarter to create the NCCHD. 

The statistics relate to live births born to Welsh residents during the relevant calendar year. The analyses are for live births only and do not include stillbirths. However, births occurring in Wales (whether to Welsh or non-Welsh residents) can also be counted by the NCCHD. 

Defnyddir y set ddata yn ffigwr 4 ar y dudalen 'Clefydau trosglwyddadwy'. 

 

Amseroedd Aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth (RTT)

Amseroedd aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth yw’r cyfnod o amser rhwng atgyfeiriad gan Feddyg Teulu neu ymarferydd meddygol arall i ysbyty am driniaeth yn GIG Cymru. Mae llwybr RTT yn cwmpasu’r amser aros ers atgyfeirio i ysbyty am driniaeth yn y GIG yng Nghymru ac mae’n cynnwys amser aros am unrhyw apwyntiadau, profion, sganiau neu weithdrefnau ysbyty eraill a allai fod yn angenrheidiol cyn cael triniaeth.

Yn sgil pandemig COVID-19 (Coronafeirws) cafodd pob apwyntiad claf allanol difrys eu hatal ym Mawrth 2020. Felly, roedd rhaid i’r rhan fwyaf o ysbytai leihau neu atal y gwasanaethau roeddynt yn eu cynnig, ac arweiniodd hyn at gynnydd yn hyd y cyfnodau aros ac yn nifer y bobl a oedd yn aros ar lwybrau cleifion yn Ebrill 2020 a’r misoedd dilynol.

Ym Mawrth 2016, newidiwyd rhywfaint o’r derminoleg a ddefnyddir i adrodd am atgyfeirio i driniaeth. Yn y gorffennol, wrth gyhoeddi’r ystadegau hyn, byddem yn defnyddio’r term ‘cleifion’. Fodd bynnag, roedd rhai defnyddwyr yn camddehongli hyn i olygu cleifion unigryw. Mae’n bosibl y gallai person fod ar nifer o wahanol restri yn aros am driniaeth i gyflyrau gwahanol - h.y. un claf ond sawl llwybr. Gan mai dull casglu data cyfanredol yw set data RTT ni allwn fesur nifer y cleifion unigryw. Felly, rydym yn defnyddio’r term ‘llwybrau cleifion’ i adlewyrchu’n well y gallai un person fod ar sawl rhestr aros. Nid yw’r fethodoleg a ddefnyddir i fesur a chyfrif yr ystadegau hyn wedi newid. Mae hwn hefyd yn fwy cyson ag arferion adrodd RTT gwledydd eraill y DU.

Am ragor o wybodaeth, ewch i StatsCymru.

Defnyddir y set ddata yn ffigur 1, 2 a 3 ar y dudalen 'System gallu i ymateb'. 

 

Set Ddata Adrannau Achosion Brys (EDDS)

Mae Set Ddata Adrannau Achosion Brys (EDDS) yn casglu gwybodaeth am bresenoldeb mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac Unedau Mân Anafiadau (MIUs) yn ysbytai Cymru.

Nid yw Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn darparu data EDDS gan nad oes unrhyw adrannau damweiniau ac achosion brys na MIUs yn yr Ymddiriedolaeth.

Yn ystod pandemig COVID-19, caeodd sawl Uned Mân Anafiadau dros dro, ond mae rhai wedi ailagor ers hynny. Y rhain yw Ysbyty'r Barri (cau ym Mawrth 2020; ailagor yn Awst 2020); Bryn Beryl (cau ym Mai 2020; ailagor yn Awst 2020); Ysbyty Dosbarth Dolgellau ac Abermo (cau yn Ebrill 2020; parhau i fod ar gau); Ysbyty Coffa Rhyfel Tywyn a’r Cylch (cau ym Mehefin 2020; parhau i fod ar gau); a Llanymddyfri (cau yn Ebrill 2020; parhau i fod ar gau).

Am ragor o wybodaeth, ewch i StatsCymru.

Defnyddir y set ddata yn ffigur 4 a 5 ar y dudalen 'System gallu i ymateb'. 

 

Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST)

Mae gwasanaethau ambiwlans brys yn cael eu comisiynu gan y saith Bwrdd Iechyd Lleol ar ran pobl Cymru drwy’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EASC). Mae gwasanaethau ambiwlans brys ar gyfer poblogaeth Cymru ac unrhyw un sy’n ymweld â Chymru, yn cael eu darparu gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Mae EASC wedi datblygu set o Ddangosyddion Ansawdd Ambiwlans i fonitro a gwella perfformiad ar draws y Llwybr Gofal Ambiwlans 5 Cam; Helpwch fi i ddewis; Atebwch fy ngalwad; Dewch i fy ngweld; Rhowch driniaeth i mi ac Ewch â fi i’r ysbyty.

Mae data’n cael eu cyflwyno gan Wasanaethau Digidol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’u hallforio i daenlen Excel arall.

Mae ein dangosydd yn defnyddio data ar gyfer AQI21, sy’n mesur faint o oriau a gollwyd yn dilyn hysbysu i drosglwyddo dros 15 munud.

Mae rhagor o wybodaeth am ddangosyddion gwasanaethau ambiwlans ar gael yma.

Defnyddir y set ddata yn ffigur 6 ar y dudalen 'System gallu i ymateb'. 

 

Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru

Mae Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW) yn cynnwys cofnodion pob cyfnod o weithgaredd gofal cleifion mewnol a dydd yn ysbytai GIG Cymru. Mae gweithgaredd ysbyty ar gyfer preswylwyr Cymru gafodd eu trin yng ngwledydd eraill y DU (Lloegr yn bennaf) wedi ei gynnwys hefyd. Caiff y data ei gasglu a’i godio ym mhob ysbyty. Caiff y cofnodion wedyn eu trosglwyddo’n electronig i Gofal Iechyd Digidol yng Nghymru, sy’n eu dilysu a’u hychwanegu at y brif gronfa ddata.

O 2019/20 ymlaen, cafwyd gostyngiad yng nghyfanswm y derbyniadau brys oherwydd pandemig Covid-19. Dylid rhoi ystyriaeth ddyledus i hyn wrth ddadansoddi tueddiadau mewn derbyniadau torri cluniau ymysg pobl hŷn.

Dolenni defnyddiol

Geiriadur Data GIG Cymru

Tabl Cyhoeddiadau PEDW

Defnyddir y set ddata yn ffigur 7 a 8 ar y dudalen 'System gallu i ymateb'. 

 

System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru (WLIMS) 

Mae hon yn system TG a ddefnyddir gan staff patholeg ledled Cymru i storio, cofnodi a chyfnewid gwybodaeth, fel canlyniadau profion gwaed.
 
Mae’r system hefyd yn cysylltu â’r peiriannau sy’n cynnal y profion a dadansoddi’r samplau.
 
Mae’r system yn gysylltiedig â dadansoddwyr sy’n gyfarwydd â chynhyrchu’r mwyafrif o brofion mewn labordai.

Mae'r dadansoddiad arbrofol hwn yn archwilio cyfrif misol cleifion unigol sydd â sampl patholeg sy'n nodi tiwmor malaen sylfaenol (ac eithrio NMSC) yng Nghymru ar gyfer pob malaen.

Defnyddir y set ddata yn ffigur 9 ar y dudalen 'System gallu i ymateb'. 

 

Marwolaethau Iechyd y Cyhoedd

Mae Marwolaethau Iechyd y Cyhoedd (PHM) yn set ddata sydd yn cynnwys pob marwolaeth unigol preswylwyr sydd wedi cofrestru yn y flwyddyn benodol honno. Anfonir cofnodion unigol ar gyfer cofrestriadau marwolaeth yn wythnosol o swyddfeydd Cofrestryddion ar draws Cymru a Lloegr i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae’r ONS yn cydgrynhoi ac yn dilysu’r data. Mae’r data’n seiliedig ar achos sylfaenol marwolaeth e.e. os bydd unigolyn yn marw o niwmonia ond wedi cael ei wneud yn agored i’r clefyd hwnnw gan ganser cyfnod terfynol, yna canser (yn hytrach na niwmonia) sydd yn cael ei gofnodi fel achos sylfaenol marwolaeth.

Cafwyd diwygiadau i’r ffordd y mae’r tystysgrifau marwolaeth yn cael eu trosi gan yr ONS yn godau Dosbarthiad Rhyngwladol Clefydau (10fed diwygiad). Mae’r newidiadau hyn yn golygu nad yw data heb ei ddiwygio yn gallu cael ei gymharu ar draws blynyddoedd. Mae’r prif newid yn ymwneud â’r rheolau sydd yn llywodraethu pa achos marwolaeth a nodir ar y dystysgrif farwolaeth sydd yn cael ei ddewis fel yr achos sylfaenol. Nid yw cymarebau cymhareb wedi cael eu defnyddio yn y dadansoddiadau hyn ac felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli tueddiadau.

Mae achos marwolaeth yn seiliedig ar dystysgrif feddygol achos y farwolaeth. Caiff hon ei llenwi gan y meddyg ardystio ar gyfer tua thri chwarter marwolaethau a chan grwner ar gyfer y gweddill. Nid yw’r rhan fwyaf o farwolaethau sydd yn cael eu hardystio gan grwner yn cynnwys cwest nag unrhyw amheuaeth o drais, ond cânt eu cyfeirio at y crwner am eu bod yn sydyn ac yn annisgwyl, neu am nad oedd meddyg yn bresennol yn ystod salwch olaf yr ymadawedig. Bydd oedi hir yn cofrestru nifer fach o farwolaethau lle mae angen dyfarniad crwner e.e. hunanladdiad, dynladdiad, bwriad amhenodol.

Noder bod hunanladdiadau yn cael eu cyfrif yn ôl y dyddiad cofrestru. Mae oedi hysbys rhwng dyddiad y digwyddiad a’r dyddiad cofrestru; mae oedi pellach yn debygol o ganlyniad i bandemig coronafeirws. Byddwch yn ymwybodol bod data’n debygol o fod yn anghyflawn, yn arbennig ar gyfer y cyfnodau mwyaf diweddar.  Gweler ONS am fwy o wybodaeth:

Effaith oedi gyda chofrestru ystadegau marwolaethau yng Nghymru a Lloegr – Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)

Defnyddir y set ddata yn ffigurau 1-9 ar y dudalen 'Marwolaethau gormodol'. 

 

Grŵp Ymchwil Tybaco Coleg Prifysgol Llundain

Mae’r dangosydd cyffredinrwydd ysmygu yn defnyddio data o Astudiaeth y Pecyn Cymorth Ysmygu (STS) a ddarparwyd gan Grŵp Ymchwil Tybaco ac Alcohol Coleg Prifysgol Llundain (UTARG). 

 Mae’r STS yn cynnwys arolygon poblogaeth misol gyda galwadau ffôn dilynol 12 mis wedyn. Bob mis mae sampl newydd o tua 300 o bobl 16 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru yn cael eu cyfweld. Nodwch fod y broses o gasglu data wedi newid o fod wyneb yn wyneb i fod dros y ffôn yn sgil y pandemig ac mai dim ond oedolion 18 oed a throsodd a holwyd rhwng Ebrill 2020 a Rhagfyr 2021. Mae samplau’n cael eu pwysoli i gyfateb i boblogaeth Cymru ar ddemograffeg gymdeithasol allweddol.

 Mae rhagor o wybodaeth am UTARG yma a gellir gweld eu hallbwn ar ysmygu yng Nghymru yma

Defnyddir y set ddata yn ffigur 1 ar y dudalen 'Ymddygiad iach a llesiant'.

 

Data Kantar

Mae ein dangosyddion yfed alcohol a bwyta ffrwythau a llysiau’n defnyddio data a gyflenwir gan Kantar. Mae rhagor o wybodaeth am Kantar yma.

Bwyta ffrwythau a llysiau

Mae’r dangosydd bwyta ffrwythau a llysiau’n defnyddio data o set ddata Worldpanel Usage Foods. Mae gwasanaeth Worldpanel Usage Foods yn cynnwys casglu data ymchwil y farchnad gan banel o 11,000 o unigolion mewn 4,000 o gartrefi lle mae amcangyfrifon o gymeriant defnyddwyr yn cael eu llunio o’r data a gasglwyd. Mae amcangyfrifon o ddata cymeriant defnyddwyr a gesglir yn cael ei drefnu dros gyfnod adrodd o bumdeg dau (52) wythnos.

Methodoleg

Mae’r gwasanaeth defnydd yn olrhain defnydd unigolion yn y cartref/a gludir allan ledled y DU. Mae panelwyr yn llenwi dyddiadur ar-lein yn agos at yr adeg defnyddio am 7 diwrnod ar y tro, bedair gwaith y flwyddyn, gan roi sampl o dros 40,000 o ddyddiaduron wythnosol (~11,000 o unigolion).

Gofynnir iddynt adrodd am bob categori bwyd a diod y mae pob unigolyn yn y cartref wedi’i fwyta a’i yfed bob diwrnod o’r wythnos ar draws 7 achlysur gwahanol (Brecwast, Byrbrydau Bore, Cinio, Byrbrydau Pnawn, Amser te, Pryd Min Nos a Byrbrydau Min Nos). Nid yw’r fethodoleg yn galluogi olrhain union faint y dogn o ffrwythau/llysiau sy’n cael ei fwyta bob tro felly yn yr adroddiad hwn, rydym yn cymryd bod panelwyr yn bwyta’r swm cywir i gyfrif tuag at eu dogfen o 5 y dydd.

Mae’r panel wedi’i bwysoli i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth y DU (yn seiliedig ar oedran/rhywedd, presenoldeb plant yn y cartref ac ati).

Categorïau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn:

Ffrwythau a llysiau ffres

Ffrwythau a llysiau wedi rhewi

Ffrwythau a llysiau ar dymheredd ystafell

Cawl ffres ac ar dymheredd ystafell (ac eithrio cawl sych/paced)

Sudd ffrwythau pur (ffres ac ar dymheredd ystafell) – ac eithrio Sudd o dewsudd

Eithriadau:

Tatws – gan nad ydynt yn cyfrif tuag 1 o’ch 5 y dydd

Perlysiau

Tsilis

Lemon a Leim

Garlleg a Sinsir

Y rheswm am hyn yw bod meintiau’r dognau yn annhebygol o fodloni’r swm gofynnol i gyfrif tuag at 1 o’ch 5 y dydd

Categorïau cynnyrch fel bariau byrbryd, prydau parod ac ati a allai gynnwys dogn o’ch 5 y dydd ond nad yw o reidrwydd/bob amser yn cynnwys dogn o ffrwythau/llysiau. Bydd unrhyw fwyd/diod a brynir y tu allan i’r cartref a’i fwyta/yfed y tu allan i’r cartref yn cael eu heithrio hefyd.

 

Yfed alcohol

Mae’r dangosydd yfed alcohol yn defnyddio data o set ddata Alcovision. Mae gwasanaeth Alcovision yn cynnwys casglu data ymchwil y farchnad gan banel o 30,000 o unigolion lle mae amcangyfrifon o gymeriant defnyddwyr yn cael eu llunio o’r data a gasglwyd. Mae’r amcangyfrifon o’r data cymeriant defnyddwyr a gasglwyd yn cael eu trefnu dros gyfnod adrodd o dri mis.

Mae diod wedi’i ddiffinio fel un gwydraid o win, potel o gwrw, mesur o wirod ac ati.

 Defnyddir y set ddata yn ffigur 2, 3, 4, a 5 ar y dudalen 'Ymddygiad iach a llesiant'.

 

Arolwg Cenedlaethol Cymru:

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnwys tua 12,000 o bobl bob blwyddyn ac yn cynnwys amrywiaeth eang o destunau. Y prif ddiben yw darparu gwybodaeth am safbwyntiau ac ymddygiad oedolion yng Nghymru.

Mae’r data a gyflwynir yn yr offeryn yn ôl blwyddyn ariannol, ac er ei fod yn cael ei gyflwyno yn y tab tueddiadau, nid yw cymariaethau uniongyrchol dros amser yn bosibl oherwydd y newid sylweddol mewn methodoleg bob blwyddyn. Yn ogystal, ni chafodd pob cwestiwn ei ofyn yn ystod pob cyfnod arolwg. 

 Dolenni defnyddiol

 

Defnyddir y set ddata yn ffigur 6 ar y dudalen 'Ymddygiad iach a llesiant'.

 

Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PES)

Mae’r dangosydd tuedd gweithgarwch corfforol yn defnyddio data o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016-2020 i sefydlu cyfartaledd cyn-pandemig ar gyfer cymharu ymatebion o Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ystod pandemig COVID-19, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gyfweliadau gyda channoedd o bobl 18 oed neu’n hŷn ledled Cymru, i ddeall sut mae COVID-19 a’r mesurau a ddefnyddir i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.

Cynhaliwyd yr arolwg dros y ffôn, a gofynnwyd i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut mae Coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Mae’r wybodaeth a gasglwyd gan 500 neu fwy o unigolion a ddewisir ar hap yn darparu sail y canlyniadau a gyflwynwyd ym mhob adroddiad wythnosol. Nod yr arolwg yw darparu data sy’n gynrychioliadol o boblogaeth Cymru ac mae data’n cael ei addasu i gynrychioli’r boblogaeth yn ôl oedran, rhyw ac amddifadedd.

Mae rhagor o wybodaeth am PES i’w chael yma.

Defnyddir y set ddata yn ffigur 6 ar y dudalen 'Ymddygiad iach a llesiant'.

 

Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus (PHW)

Mae’r data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer dangosydd gweithgarwch corfforol yn defnyddio data gan Banel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Panel cenedlaethol o drigolion 16+ oed sy’n byw yng Nghymru yw Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus, a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad cyhoeddus rheolaidd i lywio polisi ac ymarfer iechyd cyhoeddus. Cynlluniwyd y panel i fod yn gymharol gynrychioliadol o boblogaeth Cymru yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae aelodau o’r cyhoedd yn cael eu recriwtio i’r panel drwy amrywiaeth o ddulliau ac yna’n cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolygon rheolaidd i ddarparu dealltwriaeth o faterion iechyd cyhoeddus allweddol.

Sefydlwyd targed cychwynnol o 2,500 o aelodau panel er mwyn cael sampl arolwg misol o tua 1,000 o ymatebion, gyda chyfraddau ymateb i arolygon misol bob deufis tua 50% ar y mwyaf.

Gwahoddir aelodau’r panel i gymryd rhan mewn arolwg 15-20 munud bob mis. Bydd yr arolygon yn gofyn am faterion iechyd cyhoeddus cyfredol a allai effeithio ar iechyd y gymuned yng Nghymru.

Gellir cwblhau arolygon mewn un o ddwy ffordd:

Ar-lein: drwy dderbyn dolen bersonol i arolwg mewn e-bost bob mis.

Ffôn: cyfwelydd hyfforddedig o DJS Research yn eich ffonio bob mis ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Mae rhagor o wybodaeth am y panel yma.

 

Defnyddir y set ddata yn ffigur 7 ar y dudalen 'Ymddygiad iach a llesiant'.

 

Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS)

Mae'r Arolwg Blynyddol yn arolwg cartref parhaus, sy'n cwmpasu'r DU, gyda'r nod o ddarparu amcangyfrifon rhwng cyfrifiadau o brif newidynnau cymdeithasol a marchnad lafur ar lefel ardal leol. Nid yw'r Arolwg Blynyddol yn arolwg annibynnol, ond mae'n defnyddio data wedi'i gyfuno o ddwy don o'r prif Arolwg o'r Llafurlu (LFS) gyda data a gesglir ar hwb sampl lleol. Ar wahân i gyflogaeth a diweithdra, mae'r pynciau a drafodir yn yr arolwg yn cynnwys tai, ethnigrwydd, crefydd, iechyd ac addysg.

Mae'r setiau data yn cynnwys 12 mis o ddata arolwg. Maint y sampl a gyflawnir yw tua 320,000 o ymatebwyr.

 

Defnyddir yr Arolwg i amcangyfrif cymharydd cyn-pandemig ar gyfer:

  • Unigolion sy’n dweud bod ganddynt lefelau uchel o orbryder
  • Unigolion sy’n dweud nad ydynt yn cael llawer o foddhad mewn bywyd
  • Unigolion sy’n dweud nad ydynt yn hapus iawn
  • Unigolion sy’n dweud nad ydynt yn teimlo’n fawr o werth
  • Unigolion sy’n dweud eu bod yn teimlo’n unig bob amser, yn aml neu rywfaint o’r amser

Mae rhagor o wybodaeth am yr Arolwg yma.

Defnyddir y set ddata yn ffigur 8, 9, 10 a 11 ar y dudalen 'Ymddygiad iach a llesiant'.

 

Arolwg Safbwyntiau a Ffordd o Fyw (OPN) a safbwyntiau a thueddiadau cymdeithasol, ONS

Arolwg Safbwyntiau a Ffordd o Fyw

Cynhelir arolwg bob pythefnos sy’n canolbwyntio ar gasglu gwybodaeth am iechyd, yn cynnwys effaith y pandemig coronafeirws (COVID-19) ar gartrefi ac unigolion ym Mhrydain, yn ogystal ag ystod o bynciau eraill fel profiadau pobl o gostau byw a phrinder nwyddau. Cwestiynau gan adrannau’r llywodraeth a ofynnir yn bennaf, a rhai gan brifysgolion ac elusennau.

Mae’r Arolwg Safbwyntiau a Ffordd o Fyw (OPN) yn darparu atebion cyflym i gwestiynau sydd o ddiddordeb polisi uniongyrchol, gan helpu i fesur ymwybyddiaeth y cyhoedd o bolisïau newydd.

Mae pynciau y gofynnwyd amdanynt yn cynnwys:

  • mesurau iechyd corfforol a meddyliol  
  • llesiant
  • unigrwydd
  • profiadau o drosedd
  • agweddau at newid hinsawdd
  • dealltwriaeth y cyhoedd o ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd a gwybodaeth y llywodraeth yn gysylltiedig â phandemig y coronafeirws
  • a yw pobl yn cadw at y canllawiau diweddaraf mewn perthynas â’r pandemig
  • agweddau at frechu a phrofion torfol
  • sut mae’r pandemig wedi effeithio ar waith ac addysg pobl

Mae rhagor o wybodaeth am yr OPN, yn cynnwys y fethodoleg a’r ansawdd, ar gael yma

 

Safbwyntiau cyhoeddus a thueddiadau cymdeithasol

 

Mae’r data safbwyntiau cyhoeddus a thueddiadau cymdeithasol yn cael eu creu trwy ddefnyddio data o set ddata OPN ONS. Mae rhagor o wybodaeth yn un o’r bwletinau, fel yr un a welir yma.

 

Defnyddir y set ddata yn ffigur 8 i 13 ar y dudalen 'Ymddygiad iach a llesiant'.

Defnyddir y set ddata yn ffigur 3 a 4 ar y dudalen ‘Penderfynyddion Ehangach’.

 

Gwybodaeth Amser Real Cynllun Talu wrth Ennill (PAYE) wedi’i addasu’n dymhorol

Gan fod data’r cynllun Talu wrth Ennill (PAYE RTI) yn cwmpasu’r boblogaeth gyfan o weithwyr cyflogedig (y rhai sy’n cael eu talu drwy PAYE), yn hytrach na sampl, gellir eu defnyddio i gynhyrchu ystadegau manylach a chywirach am dâl a chyflogaeth na’r ystadegau cyfredol sy’n seiliedig ar arolwg. Ond, mae’r ystadegau y gellir eu cynhyrchu o ddata PAYE wedi’u cyfyngu gan y data mae’r system PAYE yn eu casglu a’r rheolau sy’n llywodraethu’r system. Tra bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn defnyddio diffiniadau’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) ar gyfer ei hystadegau seiliedig ar arolwg, ni ellir glynu wrthynt yn fanwl wrth ddefnyddio data PAYE, oherwydd cânt eu casglu at ddibenion treth yn bennaf.

Mae rhagor o wybodaeth am ddata PAYE, yn cynnwys y fethodoleg a’r ansawdd, ar gael yma.

Defnyddir y set ddata yn ffigur 1 a 2 ar y dudalen ‘Penderfynyddion Ehangach’.

 

Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn cynnwys costau tai perchen-feddianwyr (CPIH)

Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn cynnwys costau tai perchen-feddianwyr (CPIH) yw’r mesur mwyaf cynhwysfawr o chwyddiant. Mae’n estyn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) i gynnwys mesur o’r costau sy’n gysylltiedig â bod yn berchen ar eich cartref eich hun, ei gynnal a’i gadw a byw ynddo, sef y costau tai perchen-feddianwyr (OOH), ynghyd â’r Dreth Gyngor. Mae’r ddau fesur yn dreuliau sylweddol i lawer o aelwydydd a heb eu cynnwys yn y CPI.

Defnyddir y set ddata yn ffigur 1 ar y dudalen ‘Penderfynyddion Ehangach’.

 

Arolwg o’r Llafurlu (LFS)

Astudiaeth a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yw’r Arolwg o’r Llafurlu. Mae’n edrych ar amgylchiadau cyflogaeth poblogaeth y DU. Dyma’r astudiaeth fwyaf yn y DU ac mae’n darparu’r mesurau swyddogol o gyflogaeth a diweithdra.

 

Cynhelir yr arolwg naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn ac mae’n casglu gwybodaeth am amgylchiadau’r cartref cyfan ar ystod o bynciau fel iechyd, statws cyflogaeth a chyfleoedd addysg/hyfforddiant.

 

I gael rhagor o wybodaeth am yr Arolwg o’r Llafurlu, cliciwch yma

 

Defnyddir y set ddata yn ffigur 5, 6, 7 a 8 ar y dudalen ‘Penderfynyddion Ehangach’.

 

Clirio Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP)

Mae’r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn helpu gyda rhai costau ychwanegol a achosir gan salwch neu anabledd hirdymor os ydych chi rhwng 16 a 64 oed. Dechreuodd PIP ddisodli Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i bobl 16 i 64 oed o 8 Ebrill 2013. Mae hawliadau newydd yn cyfeirio at unigolyn nad oedd yn derbyn DLA cynt ac sydd wedi gwneud hawliad newydd am PIP. Nid yw Rheolau Arferol yn cyfeirio at unrhyw Reolau Arbennig ar gyfer Diwedd Oes.

Mae ystadegau Clirio Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) yn dod o System Gyfrifiadurol Taliadau Annibyniaeth Personol (PIPCS). Mae’r wybodaeth hon yn cael ei diweddaru dros nos i Storfa Ddata Awtomatig (ADS), sy’n cael ei darparu i ddadansoddwyr. Gall gwallau cofnodi a chlerigol ddigwydd yn PIP – am y rheswm hwn, ni ddylid dibynnu ar niferoedd bach iawn a geir trwy Stat-Xplore.

Rhwng Mawrth 2019 a Mehefin 2019, arweiniodd problem dechnegol gyda gweinyddwyr system gyfrifiadurol PIP at dangyfrif nifer y cofrestriadau a nifer y ceisiadau na dderbyniwyd yn sgil methu’r asesiad, tra bod nifer y ceisiadau na dderbyniwyd cyn asesu wedi’u gorgyfrif. Datryswyd y broblem dechnegol hon ganol mis Mehefin 2019 a rhyddhawyd y data a effeithiwyd yng nghyhoeddiad 12 Medi 2019.

Nodwch fod diwygiad wedi’i wneud ym Mehefin 2018 i gategoreiddio oedrannau hawlwyr PIP wrth glirio’n gywir i bobl 66-69 oed, a oedd wedi’u nodi fel pobl o oedran Anhysbys neu goll cynt.

 

Mae rhagor o wybodaeth am ddata clirio PIP ar wefan Stat-Xplore. Efallai y bydd angen i chi greu manylion mewngofnodi.

 

Defnyddir y set ddata yn ffigur 9 ar y dudalen ‘Penderfynyddion Ehangach’.

 

Ffynonellau data allweddol eraill:

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) yw’r dull swyddogol gan Lywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n canfod ardaloedd sydd â’r crynoadau uchaf o fathau gwahanol o amddifadedd.

Amcangyfrifon canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (MYE) yw'r ffynhonnell swyddogol o feintiau poblogaeth, a gynhyrchir bob blwyddyn, gan gwmpasu poblogaethau awdurdodau lleol, siroedd, rhanbarthau a gwledydd y DU yn ôl oedran a rhyw.  Defnyddir y ffynhonnell ddata hon fel yr enwadur wrth gyfrifo cyfraddau crai a safonedig yn ôl oedran.

Gweler arweiniad ynghylch sut i ddehongli’r telerau canlynol a ddefnyddir yn yr offeryn:

Mae cyfyngau hyder yn dangos yr amrywiad naturiol y byddai rhywun yn disgwyl ei weld mewn perthynas â chyfradd a dylid ystyried y rhain wrth asesu neu ddehongli cyfradd. Mae maint y cyfwng hyder yn dibynnu ar nifer y digwyddiadau a maint y boblogaeth y mae'r digwyddiadau wedi deillio ohoni. Yn gyffredinol, mae cyfraddau sydd wedi'u seilio ar niferoedd bach o ddigwyddiadau ac ar boblogaethau bach yn debygol o fod â chyfyngau hyder ehangach. I'r gwrthwyneb, bydd cyfyngau hyder cyfraddau sydd wedi’u seilio ar boblogaethau mawr yn debygol o fod yn gulach.

Yn offeryn adrodd y Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd, byddwn yn defnyddio cyfyngau hyder o 95 y cant. Mae hyn yn cynrychioli ystod o werthoedd y gallwn fod 95 y cant yn hyderus ei bod yn cynnwys y gyfradd sylfaenol 'gywir'.

Bydd cymariaethau'n cael eu gwneud yn aml rhwng dau amcangyfrif neu ragor, er enghraifft rhwng gwahanol ardaloedd neu gyfnodau (Ffigur 1). Weithiau, mewn achosion o'r fath, bydd profion ystadegol yn cael eu gwneud drwy gymharu cyfyngau hyder yr amcangyfrifon i weld a ydynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd.  Bydd cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd yn cael eu hystyried yn rhai sy’n ystadegol arwyddocaol wahanol (Ffigurau 1a ac 1b).  Er ei bod yn deg tybio bod cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd yn dangos gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol, nid yw bob tro'n wir nad yw cyfyngau hyder sy’n gorgyffwrdd â'i gilydd yn dangos gwahaniaeth o'r fath (Ffigur 1c)  Dull mwy manwl gywir yw cyfrifo cymhareb y ddau amcangyfrif, neu'r gwahaniaeth rhyngddynt, a llunio prawf neu gyfwng hyder sydd wedi'i seilio ar yr ystadegyn hwnnw. Nid yw dulliau fel hyn yn cael eu trafod yn y canllaw technegol hwn, ond gallwch ddarllen amdanynt mewn gwerslyfrau safonol.

 

Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yn fesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru ac yn Ystadegyn Cenedlaethol. Mae’n nodi ardaloedd â’r crynodiadau uchaf o amddifadedd. Mae rhestru’r ardaloedd hyn, a’u rhannu’n bum grŵp cyfwerth o ran maint yn creu pumedau amddifadedd.

Ar gyfer pob dadansoddiad ar lefel genedlaethol a’r rhan fwyaf o’r dadansoddiadau mewn byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, cyfrifir pumedau ar lefel Cymru (pumedau cenedlaethol). Ceir rhai dangosyddion lle defnyddir pumedau lleol, yn benodol disgwyliad oes a disgwyliad oes iach. Mae pumedau lleol yn wahanol i bumedau cenedlaethol o ran bod pum band cyfartal amddifadedd yn cael eu hailgyfrifo ar gyfer yr ardaloedd bach mewn pob bwrdd iechyd a ffin awdurdod lleol yn unig, yn hytrach nag etifeddu’r pumedau cenedlaethol. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer dull mwy lleol o greu disgwyliadau iechyd.

 

 

  • Mae Dangosyddion Cenedlaethol (DC) yn cynrychioli’r canlyniadau ar gyfer Cymru, gan arddangos cynnydd tuag at saith nod llesiant. Ceir 50 DC i gyd, nodir deg yn Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Dangosfwrdd Trosolwg Cyflym Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'n cael ei gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • chwyddo mewn hyd at 300% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.  Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Mae hygyrchedd ar y wefan hon yn cael ei arwain gan safonau llywodraeth a Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We (WCAG). Mae WCAG yn cael ei derbyn yn eang fel y safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd ar y we.

Er ein bod yn ceisio gwneud y wefan hon yn hygyrch i bob defnyddiwr a chyrraedd lefel gydymffurfio 'AA' gyda WCAG; rydym yn gweithio'n barhaus gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cydymffurfio â lefel 'A' yn cael ei dilyn fel isafswm.

Mae nodwedd cyfieithu a thestun-i-lais Recite Me ar y wefan hon yn awtomataidd. Gall fod gwallau ac anghysondebau yn y cyfieithiadau. Y testun swyddogol yw fersiwn Cymraeg/Saesneg y wefan. Os byddwch yn cael unrhyw broblem hygyrchedd ar y safle hwn neu os oes gennych unrhyw sylw, cysylltwch â ni..

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Fersiwn 1, cyhoeddwyd 08/12/2023
We know some parts of this website are not fully accessible:

  • Efallai na fydd rhannau o rai tudalennau yn gweithio'n dda gyda Thechnolegau Cynorthwyol fel darllenwyr sgrin
  • Mae rhai botymau a dolenni nad oes ganddynt ddisgrifiadau hygyrch
  • Mae rhai tudalennau na ellir eu defnyddio'n llawn gyda'r bysellfwrdd
  • Mae gan rai tudalennau drefn ffocws afresymegol

Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth am y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei deall, recordiad sain neu Braille, cysylltwch â ni i ddechrau a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol.  Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 10 diwrnod gwaith.

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd cysylltwch â ni.

Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut y byddwn yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymrwymedig i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We fersiwn 2.2, yn sgil yr achosion o ddiffyg cydymffurfio ac eithriadau a restrir isod.  

Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Fersiwn 1, cyhoeddwyd 08/12/2023


Er ein bod yn ceisio bodloni ‘WCAG 2.2 AA’ ar hyn o bryd mae gennym y materion canlynol o ran diffyg cydymffurfio:

 

1.3 Addasadwy

           1.3.1 Gwybodaeth a Chydberthynas

1.3.2 Dilyniant Ystyrlon

1.3.3 Nodweddion Synhwyraidd

1.3.4 Cyfeiriadaeth

1.3.5 Nodi Diben Mewnbwn

1.4 Gwahaniaethol

           1.4.1 Defnydd o Liw

1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm)

1.4.8 Cyflwyniad Gweledol

1.4.12 Testun Spacing

1.4.13 Cynnwys ar Hover neu Focus

2.1 Mynediad trwy Fysellfwrdd

           2.1.1 Bysellfwrdd

2.4 Llywiadwy

          2.4.3 Trefn Ffocws

          2.4.4 Diben Dolen

          2.4.6 Penawdau a Labeli

          2.3.13 Ymddangosiad Ffocws

3.1 Darllenadwy

          3.1.1 Iaith y dudalen

          3.1.4 Byrfoddau

4.1 Cydnaws

          4.1.2 Enw, Rôl a Gwerth

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ym mis Tachwedd 2023. Caiff ei adolygu ym mis Tachwedd 2024. Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Tachwedd 2023 gennym ni gan ddefnyddio Mewnwelediadau Hygyrchedd FastPass ar gyfer ehangu’r We.