Neidio i'r prif gynnwy
Angela Williams

Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Gweithrediadau a Chyllid

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Gweithrediadau a Chyllid

Angela Williams yw Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Gweithrediadau a Chyllid.

 

Ymunodd Angela â'r sefydliad ar secondiad 2 flynedd i rôl Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a Phennaeth Cyllid Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Hydref 2017. Roedd y cyfle hwn yn rhan o raglen Piblinell Doniau Academi Cyllid y GIG i feithrin doniau a gweithio'n wahanol er mwyn darparu cyfleoedd datblygu. Ym mis Ionawr 2019, penodwyd Angela i'r rôl hon yn barhaol. Yna ym mis Medi 2021, cymerodd Angela y cyfrifoldeb ychwanegol o ddod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau a Chyllid.

 

Mae Angela yn uwch weithiwr cyllid proffesiynol brwdfrydig, ymroddedig ac uchel ei chymhelliant gyda dros 36 mlynedd o brofiad yn y GIG. Cymhwysodd gyda CPFA yn 2003, ac mae wedi dal nifer o swyddi cyllid ar draws yr ystod o swyddogaethau cyllid yn Awdurdod Iechyd Gorllewin Morgannwg, Iechyd Morgannwg, Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg, Ymddiriedolaeth GIG ABM a Bwrdd Iechyd ABMU.