Neidio i'r prif gynnwy

Ffliw a COVID-19: Beth i'w ddisgwyl ar ôl, oedolion

 

Brechiadau ffliw a COVID-19

Beth i’w ddisgwyl ar ôl brechiadau ffliw a COVID-19 i oedolion

Awst 2022

 

Mae'r daflen hon yn dweud wrthych beth i'w ddisgwyl ar ôl eich brechlynnau ffliw a COVID-19.

Mae'r holl frechlynnau ffliw a COVID-19 a roddir gan GIG Cymru wedi'u hawdurdodi i'w defnyddio ar draws y DU gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Mae'r MHRA yn parhau i adolygu diogelwch brechlynnau yn seiliedig ar adroddiadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r cyhoedd.

 

A fyddaf yn cael unrhyw sgil-effeithiau?

Fel pob meddyginiaeth, gall brechiadau achosi sgil-effeithiau. Mae hyn oherwydd bod brechlynnau'n gweithio drwy ysgogi ymateb yn eich system imiwnedd. Mae’r rhan fwyaf o sgil-effeithiau yn ysgafn ac yn rhai tymor byr, ac nid yw pawb yn eu cael.

Mae sgil-effeithiau cyffredin iawn yn y diwrnod cyntaf neu ddau yn cynnwys:

  • teimlad trwm neu ddolur lle cawsoch y pigiad
  • poenau cyffredinol neu symptomau tebyg i ffliw
  • teimlo’n flinedig
  • cael pen tost/cur pen a
  • thwymyn ysgafn.

Os yw eich braich yn arbennig o boenus, efallai y bydd yn anodd i chi godi eitemau trwm.

Os byddwch yn teimlo'n sâl neu'n flinedig iawn, dylech orffwys ac osgoi gweithredu peiriannau neu yrru.

Efallai y byddwch yn cael twymyn ysgafn am ddau neu dri diwrnod ar ôl eich brechlyn. Fodd bynnag, mae tymheredd uchel yn anarferol ac efallai y bydd oherwydd bod gennych haint neu salwch arall. Os ydych yn poeni, siaradwch â'ch meddyg neu nyrs. Gallwch gymryd parasetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn a pheidiwch â chymryd mwy na'r dos a argymhellir), a gorffwys i’ch helpu i deimlo’n well.

Un sgil-effaith anghyffredin ar ôl y brechlyn COVID-19 yw chwarennau chwyddedig yn y gesail neu'r gwddf ar yr un ochr â'r fraich lle cawsoch y brechlyn. Gall hyn bara tua 10 diwrnod, ond os yw'n para'n hirach cysylltwch â'ch meddygfa i gael cyngor. Os ydych i fod i gael prawf sgrinio'r fron (mamogram) yn yr ychydig wythnosau ar ôl y brechlyn, soniwch eich bod wedi cael y brechlyn COVID-19 pan fyddwch yn mynd i gael y prawf.

Cafwyd adroddiadau am gyflwr eithriadol o brin yn ymwneud â chlotiau gwaed a gwaedu anarferol ar ôl brechu gyda brechlyn AstraZeneca. Mae hyn yn cael ei fonitro'n ofalus ond nid yw’r ffactorau risg ar gyfer y cyflwr hwn yn glir eto. 

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn dweud bod cyfradd llawer is o glotiau gwaed a gwaedu anarferol gydag ail ddosau a dosau atgyfnerthu. Oherwydd y risg uchel o gymhlethdodau a marwolaeth o COVID-19, mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Gofal Iechyd (MHRA), Sefydliad Iechyd y Byd a'r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd wedi dod i'r casgliad bod y cydbwysedd o blaid brechu ar gyfer y mwyafrif helaeth o oedolion.

Os byddwch yn profi unrhyw rai o'r canlynol o tua phedwar diwrnod i bedair wythnos ar ôl eich brechiad, dylech gael cyngor meddygol ar frys.

  • Pen tost/cur pen newydd, difrifol nad yw'n cael ei helpu gan boenladdwyr arferol neu sy'n gwaethygu.
  • Pen tost/cur pen anarferol sy'n ymddangos fel pe bai'n gwaethygu wrth orwedd i lawr neu blygu drosodd neu gall ddigwydd ar y cyd â:
    • golwg aneglur, cyfog a chwydu
    • anhawster gyda’ch lleferydd, neu
    • wendid, teimlo'n gysglyd neu ffitiau.
  • Cleisio neu waedu pigiad pin newydd, heb esboniad.
  • Diffyg anadl, poen yn y frest, chwyddo yn y coesau, neu boen cyson yn y stumog.

Mae achosion o lid y galon (o'r enw myocarditis neu bericarditis) wedi'u nodi ar ôl rhai brechiadau COVID-19. Gwelwyd yr achosion hyn yn bennaf mewn dynion iau o fewn sawl diwrnod ar ôl eu brechu. Roedd y rhan fwyaf o'r bobl hyn wedi gwella ac yn teimlo'n well ar ôl gorffwys a thriniaeth syml.

Dylech gael cyngor meddygol ar unwaith os oes gennych y canlynol:

  • poen yn y frest
  • prinder anadl neu
  • galon sy'n curo'n gyflym, yn dirgrynu neu'n curo fel gordd.

Mae sgil-effeithiau eraill yn anghyffredin neu'n brin iawn.

Os yw eich symptomau fel pe baent yn gwaethygu neu os ydych yn bryderus, ffoniwch GIG 111 neu eich meddygfa. Os byddwch yn cael cyngor gan feddyg neu nyrs, sicrhewch eich bod yn dweud wrthynt am ba frechlyn rydych wedi'i gael er mwyn iddynt allu eich asesu'n llawn.

 

Rhoi gwybod am sgil-effeithiau

Gallwch hefyd roi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau brechlynnau drwy’r cynllun Yellow Card. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy chwilio am y cynllun Yellow Card, drwy lawrlwytho'r ap Yellow Card, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).

 

A fydd y brechlynnau'n fy amddiffyn?

Cael brechlyn ffliw blynyddol yw un o'r ffyrdd gorau o amddiffyn yn erbyn dal a lledaenu'r ffliw. Mae cael brechlyn COVID-19 yn lleihau’r siawns y byddwch yn dioddef o salwch difrifol neu'n marw o COVID-19.

Mae amddiffyniad o'r ddau frechlyn fel arfer yn dechrau ychydig wythnosau ar ôl eu cael. Fel pob meddyginiaeth, nid oes unrhyw frechlyn yn gwbl effeithiol. Efallai y byddwch yn dal i gael ffliw neu COVID-19, ond mae'n debygol y bydd eich symptomau'n fwy ysgafn.

 

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau a gynigir yng Nghymru yn: icc.gig.cymru/brechlyn

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau, gan gynnwys eu cynhwysion a sgil-effeithiau posibl, yn: medicines.org.uk/emc/. Bydd angen i chi roi enw'r brechlyn yn y blwch chwilio.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu am gael rhagor o wybodaeth, ewch i: 111.wales.nhs.uk, siaradwch â'ch meddyg neu nyrs neu ffoniwch GIG 111 Cymru.

Gallwch roi gwybod am sgil-effeithiau a amheuir yn www.mhra.gov.uk/yellowcard neu drwy lawrlwytho'r ap Yellow Card, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).

I gael gwybod sut y mae'r GIG yn defnyddio eich gwybodaeth, ewch i:  111.wales.nhs.uk/amdanomni/eichgwybodaeth

I gael y daflen hon mewn fformatau eraill, ewch i: icc.gig.cymru/brechlynnau/adnoddau-hygyrch

 

© Iechyd Cyhoeddus Cymru,

Awst 2022 (gyda chydnabyddiaeth i Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU)

Fersiwn 1